Papur newydd Y Cymro ar y silffoedd unwaith eto
- Cyhoeddwyd

Ar ôl diflannu naw mis yn ôl mae papur newydd Y Cymro ar werth unwaith eto, gyda'r golygyddion yn dweud y gall y misolyn fod yn bapur cenedlaethol "poblogaidd" i bawb.
Pwyllgor o gefnogwyr sydd yn gyfrifol am olygu a chynhyrchu y papur ar ei newydd wedd.
Cyn iddo ddod i ben ym mis Mehefin y llynedd roedd Y Cymro yn cael ei gyhoeddi bob wythnos ond bellach bob mis bydd yn ymddangos.
Mae dros 3,000 o gopïau wedi'u hargraffu, a £1 fydd cost prynu'r papur a chefnogi'r fenter newydd.
Dathlu a diolch
Mae cyfranwyr i'r Cymro newydd yn cynnwys Twm Morys, Dewi Prysor a Tecwyn Ifan.
Gruffydd Meredith, un o olygyddion Y Cymro newydd, yn sôn am y gobeithion
Dywedodd Wyn Williams, aelod o bwyllgor Y Cymro, bod cefnogwyr masnachol ac arian cyhoeddus wedi sicrhau atgyfodiad y papur.
"Diwrnod i ddathlu yw e heddiw, dathlu'r papur newydd a'r ffaith bod yr hysbysebion wedi talu am y costau cynhyrchu.
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am y nawdd i osod ein menter newydd, Cyfryngau Cymru Cyf, ar sail gadarn."

Pan gyhoeddwyd y fersiwn wreiddiol am y tro diwethaf y llynedd roedd rhai yn amheus iawn a fyddai unrhyw gynllun i atgyfodi'r papur yn llwyddo.
Ond mae'r pwyllgor sydd nawr yn gyfrifol am Y Cymro yn awyddus i ddenu'r darllenwyr brwd yn ôl, ac yn gobeithio apelio at gynulleidfa newydd.
Bydd peth cynnwys ar-lein yn y dyfodol, ond pwysigrwydd cadw'r papur printiedig sydd wedi ysgogi'r ail-lansiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2017