Lluniau: Caerdydd yn blodeuo
- Cyhoeddwyd
Mae 'na wledd o liwiau i'w gweld ym Mharc Biwt, Caerdydd dros y penwythnos, 13-15 Ebrill.
Mae'r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol (RHS) yn ôl i gynnal ei sioe flynyddol yn y brifddinas.
Mae yna atyniadau di-ri yn ogystal ag arddangosfeydd lliwgar o flodau.
Dyma ragflas o'r golygfeydd:


Cafodd y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol ei sefydlu yn 1804, ac mae wedi bod yn cynnal sioeau blodau ers 1820.


Mae maes y sioe ym Mharc Biwt ychydig yn fwy na phum cae pêl-droed.


Scarlet, pedair oed, o Gasnewydd yn mwynhau ei hun ar faes y sioe.


Arwel Ellis Owen yn mwynhau picnic gyda'i wyrion ar y maes.


Adloniant byw ar y maes gyda'r band Capra Mamei.


Mia a Hoodi o Gaerdydd yn arsylwi'r chrysanthemum.


Yr artist Rhiannon Roberts yn defnyddio'r achlysur fel cyfle i greu celf.


Ynghyd ag arddangosfeydd a stondinau prynu blodau, mae 'na lwyfannau i drafod garddio, llefydd i chwarae cerddoriaeth byw a stondinau bwyd.


Mae 'na olygfa o uchder i'r rhai sy'n ddigon mentrus - pan fydd y cerbydau'n cael eu gosod!


Bree, Ben a Gruff o Bontardawe yn dysgu am falwod.


Mae lliw i'w weld ym mhobman ar y maes.


Lachlan (pedair oed) a'i frawd mawr Rhys (saith oed) o Benarth yn cysgodi o dan un o'r arddangosfeydd.


Jill a Linda o Bontsenni yn edmygu'r Paeonia Corsica.


Anabelle, tair oed, yn mwynhau hufen iâ tra'n dysgu am flodau gan ei mam, Helen.


