Llwyddiant i fandiau pres o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Seindorf Ieuenctid Biwmares
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y band wedi codi dros £20,000 ar gyfer y daith i Utrecht

Dywed Band y Cory a Seindorf Ieuenctid Biwmares eu bod yn falch o'u llwyddiant ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Utrecht.

Brynhawn Sul daeth Seindorf Ieuenctid Biwmares yn drydydd yn eu categori ac fe enillodd Merin Lleu y wobr am yr unawdydd gorau.

Mewn neges drydar dywedodd y seindorf eu bod yn hynod o falch o'u llwyddiant.

Ffynhonnell y llun, @beaumarisband
Disgrifiad o’r llun,

Seindorf Ieuenctid Biwmares ar y llwyfan yn Utrecht

Roedd gwirfoddolwyr ac aelodau'r band wedi codi dros £20,000 ar gyfer y daith trwy gynnal gweithgareddau dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd Band y Cory o'r Rhondda hefyd yn cynrychioli Cymru a hynny yng nghategori'r bandiau hŷn.

Ffynhonnell y llun, @Coryband

Ddydd Sadwrn fe ddaethon nhw'n ail agos i Fand Pres Valaisia o'r Swistir a nhw a gafodd y marc uchaf am y perfformiad gorau o'r darn gosod.

Roedd deuddeg band yn cystadlu yn y categori a dim ond un marc oedd rhwng Band y Cory a'r band buddugol.