Band o Fôn yn cystadlu am goron band pres gorau Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Seindorf Ieuenctid Biwmares
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r band wedi codi dros £20,000 ar gyfer y daith i Utrecht

Mae cerddorion ifanc o Ynys Môn ar eu ffordd i'r Iseldiroedd i gystadlu am goron band pres ieuenctid gorau Ewrop y penwythnos yma.

Bydd Seindorf Ieuenctid Biwmares yn teithio i Utrecht ddydd Gwener cyn y gystadleuaeth ddydd Sul.

Fe fydd Band y Cory hefyd yn cynrychioli Cymru yng nghategori'r bandiau hŷn dros y penwythnos.

"Dyma'r tro cyntaf i ni wneud y gystadleuaeth yma," meddai'r arweinydd Seindorf Ieuenctid Biwmares, Gwyn Evans wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru.

"Mae'n dipyn o her ond, wrth gwrs, 'da ni'n edrych ymlaen yn arw iawn i gynrychioli Cymru."

'Braint anhygoel'

Cafodd y band eu hymarfer olaf yng Nghymru yr wythnos hon, ond dywedodd Mr Evans y byddai'r paratoadau'n parhau yn Yr Iseldiroedd gydag ymarferion nos Wener a dydd Sadwrn.

"Mae'r darnau 'da ni'n chwarae yn demanding ofnadwy, felly mae'r ymarfer wedi gorfod bod yn gyson," meddai un aelod, Tomos.

"Mae'n teimlo fel mai dim jyst cynrychioli Biwmares ydan ni, ond cynrychioli'n gwlad hefyd, sy'n fraint anhygoel."

Mae gwirfoddolwyr ac aelodau'r band wedi codi dros £20,000 ar gyfer y daith trwy gynnal gweithgareddau dros yr wythnosau diwethaf.

"Mae'r plant i gyd wedi bod yn gweithio'n galed yn casglu arian, yn gwneud pob math o weithgareddau - o wneud cacennau i olchi ceir," meddai Mr Evans.

"Allai ddim coelio'r gefnogaeth 'dan ni wedi'i gael - mae'r arian wedi bod yn llifo mewn. Fedra i 'mond diolch o waelod calon i bawb sydd wedi rhoi i fynd â'r plant i Utrecht."