Rhybudd teithio yn Wrecsam achos cyngerdd Stereophonics

  • Cyhoeddwyd
Kelly Jones o'r StereophonicsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhybuddio teithwyr i ddisgwyl oedi yn ardal Wrecsam wrth i tua 20,000 o bobl fynychu cyngerdd Stereophonics yn y dref.

Bydd y band o dde Cymru'n chwarae yn stadiwm y Cae Ras nos Sadwrn, gyda'r adloniant yn dechrau yn ystod y prynhawn.

Fe fydd rhai ffyrdd yn Wrecsam ar gau a llwybrau eraill yn cael eu dargyfeirio ar gyfer y digwyddiad.

"Rydyn ni eisiau i bobl sy'n mynd i'r cyngerdd fwynhau eu hunain ac felly bod pobl sydd ddim yn mynd i'r Cae Ras yn gorffen beth sydd ganddyn nhw ar y gweill cyn gynted â phosib," meddai'r prif arolygydd Mark Williams.

"Gyda chymaint o bobl yn dod i'r dref mae'n bwysig fod pobl, yn enwedig y rheiny sydd ddim yn mynychu'r cyngerdd, yn ymwybodol y bydd yn ddiwrnod prysur iawn ac i gofio hynny pan maen nhw allan."

Mae gan y Stereophonics ddwy sioe fawr fis yma, gyda chyngerdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 9 Mehefin yn dilyn yr un yn Wrecsam.

Fe wnaeth y band hefyd chwarae gig ar y Cae Ras yn 2016, y tro cyntaf mewn 30 mlynedd i'r stadiwm gynnal digwyddiad o'r fath.

Llynedd fe wnaethon nhw ryddhau eu halbwm diweddaraf 'Scream Above The Sounds', ac maen nhw eisoes wedi bod ar daith o gwmpas Prydain, Iwerddon ac Ewrop.