Gig Stereophonics ar y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
Stereophonics
Disgrifiad o’r llun,

Kelly Jones yw prif leisydd y Stereophonics

Bydd y Stereophonics yn perfformio mewn cyngerdd ddechrau'r haf yn y Cae Ras yn Wrecsam.

Mae disgwyl y bydd hyd at 20,000 o bobl yn y gig ar 2 Gorffennaf.

Does dim digwyddiad tebyg wedi bod yn y stadiwm ers 1982.

Catfish and the Bottlemen o Landudno, wnaeth ennill un o wobrau'r Brits yn ddiweddar, fydd yn cefnogi'r Stereophonics ar y noson.

Prifysgol Glyndŵr sy'n berchen y stadiwm, a'r gobaith yw y bydd yna fwy o sioeau byw tebyg yn y lleoliad, gan ddisgrifio'r digwyddiad fel un o bwys.

Ymysg y bandiau diwethaf i berfformio yn fyw yng nghartre' Clwb Pêl-droed Wrecsam oedd Motorhead a Twisted Sister.