Denu Eisteddfod yr Urdd i Sir Gâr yn 2021?

  • Cyhoeddwyd
Logo Croeso

Fe fydd yna groeso arbennig i Eisteddfod yr Urdd eto yn Sir Gâr, meddai cyn reolwr Menter Cwm Gwendraeth, ar drothwy cyfarfod i drafod cynnal y Brifwyl yn y sir yn 2021.

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â'r ardal oedd 2007 ond dyw hi ddim wedi bod yng Nghwm Gwendraeth ers 1989.

Dywedodd Deris Williams, a fu'n gweithio i Fenter Cwm Gwendraeth am dros ugain mlynedd, mai'r eisteddfod honno a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Fenter.

Ffynhonnell y llun, Deris Williams
Disgrifiad o’r llun,

'Bydd croeso i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gâr yn 2021' medd Deris Williams

"Dyna a'n symbylodd," meddai wrth Cymru Fyw, "i fynd i'r Swyddfa Gymreig ac fe sefydlwyd y fenter yn 1991.

"Roeddwn yn aelod o bwyllgor gwaith eisteddfod 1989 ac yn ysgrifennydd Eisteddfod Sir Gâr 2007 a does dim dwywaith fod y ddwy eisteddfod wedi dod â bywyd newydd i'r diwylliant Cymraeg yn yr ardal.

"Mae cael digwyddiad o'r fath hefyd yn hwb i ddysgwyr Cymraeg - mae manteision o bob math wrth gael Eisteddfod Genedlaethol yn y fro."

'Gadael gwaddol yn bwysig'

Wrth gael ei holi am drafodaethau yr Urdd ynglŷn â'r posibilrwydd o gael "un maes aml bwrpas" i gynnal yr Eisteddfod dywedodd Ms Williams ei bod wedi mwynhau yn fawr yn Llanelwedd eleni.

Ychwanegodd: "Dwi'n credu i Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd fod yn well na'r Eisteddfod Genedlaethol yno ond wedi dweud hynny mae gadael gwaddol mewn ardal yn bwysig.

"Fel roeddwn yn sôn fe fuom ni ar ein hennill yn fawr wedi i'r 'Steddfod fod yng Nghwm Gwendraeth yn 1989 - mae'n bwysig bod ardaloedd eraill yn cael yr un budd.

"Bydd yna groeso twymgalon i Brifwyl yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin yn 2021 - gobeithio'n wir y daw nifer o bobl ifanc i'r cyfarfod."

Bydd y cyfarfod i drafod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2021 yn cael ei gynnal yn Nre-fach ger Crosshands nos Lun ac mae disgwyl i aelodau o gyrff lleol a swyddogion yr Urdd i fod yn bresennol.