Gwersyll Glan-llyn wedi gorfod cau oherwydd salwch

  • Cyhoeddwyd
glan-llyn

Mae'r Urdd wedi cadarnhau fod nifer o oedolion a phobl ifanc wedi dioddef salwch yr wythnos diwethaf wrth ymweld â Gwersyll Glan-llyn ger y Bala.

Cafodd disgyblion o Ysgol Corn Hir, Llangefni, Ysgol Cwm Gwyddon, Abercarn, Ysgol Alun, Yr Wyddgrug, a Choleg Altrincham eu taro yn wael.

Bu nifer staff yr Urdd hefyd yn sâl ac fe gafodd cyrsiau'r penwythnos eu gohirio.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Gwynedd yn cydweithio wrth ymchwilio'r achos.

Norovirus 'yn debygol'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd: "Trwy gydol y sefyllfa, roedd y gwersyll mewn cysylltiad gyda rhieni'r plant a staff a effeithiwyd.

"Bellach, wedi dilyn yr holl brosesau perthnasol i ddelio gyda'r sefyllfa, mae'r gwersyll wedi ailagor a phethau yn gweithredu yn ôl yr arfer."

Er nad yw tarddiad y salwch yn glir ar hyn o bryd mae yna amheuaeth mai norovirus yw'r achos fwyaf tebygol.

Dywedodd Dr Brendan Mason o Iechyd Cyhoeddus Cymru na ddylai "unrhyw un sydd wedi bod yn sâl ddychwelyd i'r ysgol neu'r gwaith am 48 awr er mwyn rhwystro'r salwch rhag lledaenu".

Mae'r ymchwiliad yn parhau.