Arestio dyn ger Bangor am geisio dallu hofrennydd gyda golau llachar

  • Cyhoeddwyd
hofrennydd heddlu'r gogledd

Cafodd dyn ei arestio nos Lun ar amheuaeth o beryglu awyren, wedi i olau llachar gael ei gyfeirio at hofrennydd.

Toc cyn 23:00 roedd hofrennydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol Yr Heddlu (NPAS) yn hedfan dros Fangor yn chwilio am berson coll.

Cafodd swyddogion wybod mewn da bryd am olau llachar oedd yn cael ei gyfeirio tuag at yr hofrennydd.

Daeth swyddog o'r Uned Blismona Ffyrdd o hyd i ddyn ar Stad Ddiwydiannol Llandegai wrth ymchwilio.

Cafodd y dyn 18 oed ei arestio am beryglu awyren, rhwystro'r heddlu ac am drosedd trefn gyhoeddus wedi iddo wrthod rhannu ei fanylion personol.

Cyrhaeddodd dyn arall, 47 oed, a dechrau ymddwyn yn ymosodol wrth i'r swyddog arestio'r dyn cyntaf.

Cafodd yntau hefyd ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus.

Peryglu'n ddiangen

Dywedodd Neil Thomas, Uwch-Arolygydd Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol Heddlu'r Gogledd, fod cyfeirio golau llachar i gyfeiriad awyren yn rhoi criw'r hofrennydd mewn "perygl diangen".

Medd Mr Thomas: "Roedd yr awyren yn cynorthwyo swyddogion lleol yn chwilio am berson coll ar y pryd.

"Ni fyddwn yn caniatáu ymddygiad o'r fath ac mi fyddwn yn delio ag unrhyw un yn ymddwyn felly mewn modd priodol."

Cafodd y dyn 18 oed ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau fynd yn eu blaen.

Derbyniodd y dyn 47 oed rybudd.

Cafodd y person coll ei ddarganfod yn ddiogel.