Yr Eisteddfod Genedlaethol 'yn debyg i garnifal'

  • Cyhoeddwyd
Gwisg Carnifal y MôrFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Bydd carnifal cymunedol "lliwgar" yn cael ei gynnal ym Mae Caerdydd nos Sadwrn i ddathlu cysylltiadau'r ddinas â gwledydd ar draws y byd.

Mae gwahoddiad agored i unigolion a grwpiau o bob rhan o Gymru ymuno â Charnifal y Môr, sy'n cael ei arwain gan Garnifal Tre-biwt ac yn cael ei ariannu fel rhan o ddathliadau Blwyddyn y Môr.

Bydd gorymdaith yn cychwyn o Ganolfan y Mileniwm ar ddiwedd y cyngerdd Hwn Yw Fy Mrawd yn y Pafiliwn ac yn darfod ar lan y dŵr o flaen y Senedd - cartref Lle Celf y Brifwyl eleni.

O'r fan honno bydd pobl yn gwylio ffilm fer sy'n cael ei thaflunio ar sgriniau dŵr enfawr yn y Bae, ac sy'n cynnwys cerddoriaeth wedi'i chomisiynu gan y cerddor Gruff Rhys.

Ffynhonnell y llun, RM Parry
Disgrifiad o’r llun,

Yr academydd ac artist Dr Adeola Dewis a'r coreograffydd a dawnsiwr Idrissa Camara yn ymarfer ar gyfer Carnifal y Môr

Un o drefnwyr yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni" yw Richard Parry, cyfarwyddwr artistig y cwmni digwyddiadau diwylliannol, Coleridge yng Nghymru.

Mae'r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a Charnifal Tre-biwt, meddai, "yn dathlu'r ffaith mai dyma, oherwydd y dociau, un o gymunedau aml-ieithog, aml-ddiwylliannol cyntaf y DU".

"Mae'r Eisteddfod yn ddathliad egnïol a blaengar o Gymreictod ac mae'n caniatáu i bobl o bob rhan o fywyd Cymru i ddod at ei gilydd, dathlu a gweld sut allen ni godi'r diwylliant ymhellach.

"Yn yr Eisteddfod, mae pobl yn gwneud yr hyn maen nhw'n mwynhau'n bersonol ac hefyd yn dod at ei gilydd i ddathlu - a dyna yn union yw carnifal."

Lliwiau rhyfeddol

Bydd sŵn y digwyddiad - o fandiau pres a samba i gorau meibion - yn adlewyrchu amrywiaeth y brifddinas, a bydd elfennau gweledol hefyd yn adlewyrchu bioamyrywiaeth dyfroedd Bae Caerdydd.

"Mae Bae Caerdydd yn cynnwys plancton lleol ac hefyd plancton o longau o bob rhan o'r byd sy'n cyrraedd yn Afon Hafren."

Mae'r gwisgoedd llachar gan wneuthurwyr Carnifal Tre-biwt ar gyfer y digwyddiad yn ganlyniad cydweithio gyda gwyddonwyr Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd, a dysgu am brotein sglefrod môr sy'n disgleirio.

Mae'r protein yn cael ei ddefnyddio gan arbenigwyr ymchwil canser i amlygu'r hyn sy'n digwydd yng nghelloedd y corff. Mae un o'r arbenigwyr hynny, Dr Jen Wymant i'w gweld yn dawnsio yn y ffilm.

Ffynhonnell y llun, Megan Broadmeadow.
Disgrifiad o’r llun,

Dr Jen Wymant o Brifysgol Caerdydd mewn gwisg carnifal ar gyfer ffilm Megan Broadmeadow

"Chi'n gweld lliwiau rhyfeddol dan y meicrosgop," dywedodd Richard Parry.

"Fe wnaethon ni ffilmio'r celloedd yn symud ac wedyn mae rhai o'r gwisgoedd wedi eu dylunio o hynny. Fe welwch chi gell â chanser yn brwydro gyda chell iach yn y carnifal ac yn y ffilm."

"Mae'n wirioneddol arloesol gyda'r dechnoleg," meddai wedyn am yr artist Megan Broadmeadow, sy'n gyfrifol am y ffilm, ac am drefnu i'w thaflunio ar dair sgrîn ddwr 45 troedfedd o uchder.

Er mwyn gweld y delweddau ar arwynebedd y dŵr mae'n rhaid i'r sioe ddigwydd wedi iddi nosi. Bydd y sioe ymlaen bob nos tan nos Wener 10 Awst am 22:30.

Bydd gwisgoedd y carnifal i'w gweld weddill yr Eisteddfod yn Ffwrnais Lawen yn Y Lyric, drws nesaf i Maes B.

Ffynhonnell y llun, Turnstile Music

Yn ôl y cerddor Gruff Rhys, fe fyddai'r gân y mae wedi ei chyfansoddi ar gyfer Carnifal y Môr wedi fod yn "ddigalon iawn" heb gyfraniad cerddor sy'n tanlinellu traddodiad Caerdydd "fel lloches i bobl o bedwar ban byd".

Dywedodd: "Drwy weithio yn stiwdio'r cynhyrchydd Kris Jenkins yn Grangetown, daeth nifer o gerddorion i'n gweld gan gynnwys N'famady y chwaraewr Balafon sydd yn byw yng Nghaerdydd ers wythnos! Offeryn newydd sbon i'm clustiau i."

Mae hefyd wedi cael ei ysbrydoli gan enghreiftiau o gerddoriaeth o Gymru sy'n esblygu o ganlyniad cyrraedd rhannau eraill o'r byd.

"Mae sôn fod alawon Joseph Parry - a gladdwyd ar lannau'r bae - wedi cael dylanwad ar anthemau rhyddid rhai o wledydd Affrica, ac mae cyfnewid syniadau yn ail natur i donnau'r Môr a thonnau cerddorol," meddai

"Cân o ddathlu hynny yw hon felly ond y geiriau wedi eu hysbrydoli'n bennaf gan waith celf Megan Broadmeadow a'i diddordeb yn rhinweddau lliwgar a meddygol algae anhygoel y Bae!"

Y cynhyrchydd Muzi o Dde Affrica sydd wedi cymysgu'r gân Bae, Bae, Bae.