Galw am ailgynnal Carnifal y Môr
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dweud eu bod nhw'n "edrych ar y posibilrwydd" o ailgynnal yr orymdaith a gafodd ei chynnal nos Sadwrn ar hyd y maes ym Mae Caerdydd.
Bob nos mae gwaith celf arbennig yn cael ei arddangos tu allan i adeilad y Senedd, ar y thema Carnifal y Môr, gan gynnwys rhai delweddau'n cael eu taflunio ar sgriniau dŵr uwchben y Bae.
Ond roedd yr orymdaith, a oedd yn cael ei arwain gan Garnifal Tre-biwt ac yn cael ei ariannu fel rhan o ddathliadau Blwyddyn y Môr, yn digwydd nos Sadwrn yn unig.
Yn ôl y Brifwyl maen nhw wedi derbyn sawl cais i'r orymdaith, a ddigwyddodd ar ddiwedd cyngerdd nos Sadwrn yng Nghanolfan y Mileniwm, gael ei chynnal eto er mwyn "cloi" gweithgareddau'r wythnos.
Dywedodd Robyn Tomos, Swyddog Celf Gweledol yr Eisteddfod: "Roedd tua 4,000 o bobl o flaen y Senedd [nos Sadwrn] yn gwylio'r carnifal, a dawnswyr o Garnifal Tre-biwt, dawnswyr salsa a Chôr Meibion Treorci ymhilth y rhai oedd yn eu diddanu.
"Bydd y tafluniau i'w gweld bob nos ar y maes ar ddiwedd y cyngherddau.
"Ond rydyn ni hefyd yn edrych ar gynnal rhyw ffurf ar garnifal i gloi'r Eisteddfod nawr hefyd, er mwyn rhoi'r Bae yn ôl i bobl Caerdydd."
Bydd gwisgoedd y carnifal i'w gweld weddill yr Eisteddfod yn y Ffwrnais Lawen yn Y Lyric, drws nesaf i Maes B.