'Gall trefi eraill gael Eisteddfod di-faes fel Caerdydd'

  • Cyhoeddwyd
Y maes

Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Bae Caerdydd yn dweud bod yr ŵyl eleni wedi dangos y ffordd i drefi eraill yng Nghymru gynnal gŵyl debyg heb faes traddodiadol.

Dywedodd Ashok Ahir fod llawer o "amheuon" pobl am y Brifwyl yn y brifddinas wedi eu chwalu, ac nad oedd wedi clywed "unrhyw sôn negyddol" hyd yn hyn.

Ond mynegodd siom nad oedd y cyfryngau Saesneg wedi rhoi sylw digonol i'r ŵyl, gan ddweud y dylai gael ei hystyried yn yr un categori a digwyddiadau fel Gŵyl Caeredin.

Ychwanegodd Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod Genedlaethol, Gwenllian Carr y byddan nhw'n edrych i "ddefnyddio elfennau o'r arbrawf eleni" yn Llanrwst yn Sir Conwy'r flwyddyn nesaf.

'Gwthio ffiniau'

Gyda dim ffens o gwmpas maes yr Eisteddfod eleni, mae ymwelwyr yn gallu crwydro'r rhan fwyaf o'r maes am ddim ac eithrio rhai lleoliadau fel y Pafiliwn a'r Babell Lên, ble mae'n rhaid talu.

Ac mae Mr Ahir yn dweud bod pobl oedd yn wreiddiol wedi bwriadu cadw draw eleni nawr yn gwneud trefniadau i deithio i Gaerdydd ar gyfer diwedd yr wythnos, ar ôl clywed am yr awyrgylch yn y Bae.

"Ni wedi gwthio lot o ffiniau, mae'r pwyllgorau gwaith wedi bod yn gweithio'n galed i greu gŵyl groesawgar, greadigol, uchelgeisiol," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn credu bod yr ŵyl eleni wedi "torri'r prism" o ran sut mae'r Eisteddfod wedi cael ei gweld yn draddodiadol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ashok Ahir (dde) ei fod yn siomedig nad oes mwy o sylw i'r ŵyl gan y cyfryngau di-Gymraeg

"Does 'na ddim un Eisteddfod. Hwn i ni yw'r math o Steddfod sy'n gallu digwydd mewn trefi mawr eraill, nid jyst Caerdydd," meddai.

"Ond eto, y math o Steddfod ni 'di creu wythnos hon yw'r math o Steddfod dwi ishe gweld pan dwi'n mynd i'r Steddfod - Steddfod ar gyfer pobl eraill, nid jyst ar gyfer pobl fel ni sy'n dod i'r Steddfod."

Er hynny, meddai, mae'n siomedig nad yw'r ŵyl wedi cael mwy o sylw ymhlith y cyfryngau di-Gymraeg.

"Os mae gen i un siom yr wythnos yma, dyw cyfryngau Saesneg ddim wedi gweld y llwyddiant yma achos mae wedi digwydd yn y Gymraeg," meddai.

"Wel, i mi, beth ni'n cynnal fan hyn yw'r fersiwn Gymraeg o Ŵyl Caeredin. Os yw hwn yn digwydd eto, gobeithio y byddwn ni'n cael yr un fath o sylw."

'Dysgu gwersi'

Cadarnhaodd Mr Ahir nad yw'r trefnwyr wedi bod yn cadw ystadegau ar nifer yr ymwelwyr i'r maes eleni oherwydd y diffyg ffiniau.

Dywedodd Gwenllian Carr y byddai'r Eisteddfod yn "gwerthuso" ar ddiwedd yr wythnos i weld pa "elfennau" o'r ŵyl eleni y bydd modd eu hailadrodd yn Llanrwst yn 2019, ble bydd y Brifwyl yn dychwelyd i faes mwy traddodiadol.

Serch hynny, mae'n rhagweld y bydd rhai newidiadau yn anochel.

"Yn bersonol dwi'n meddwl bod Eisteddfod blwyddyn nesaf hyd yn oed yn fwy cyffrous rhywsut," meddai.

"Beth 'dan ni'n mynd i wneud bryd hynny ydi defnyddio pethau 'dan ni 'di ddysgu fan hyn mewn maes agored, a'i roi o mewn lleoliad sydd yn fwy gwledig."