Ffilm o Gymru'n ymgeisio am wobr yn seremoni'r Oscars
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm gan gyfarwyddwr o Gymru wedi cael ei dewis fel ymgeisydd y DU ar gyfer y wobr am y Ffilm Orau Mewn Iaith Dramor yn seremoni'r Oscars y flwyddyn nesaf.
Mae ffilm ddychanol Rungano Nyoni, 'I Am Not A Witch' yn adrodd hanes merch wyth oed o Zambia sy'n cael ei chyhuddo o fod yn wrach.
Bydd yn rhaid aros tan y flwyddyn newydd cyn y bydd trefnwyr y seremoni yn cyhoeddi pa ffilmiau sydd ar y rhestr fer o enwebiadau.
Cafodd Ms Nyoni ei geni yn Zambia ac fe symudodd i fyw i Gaerdydd pan roedd yn wyth oed.
Fe ddefnyddiodd ychydig o Gymraeg a iaith Bemba Zambia wrth ddiolch am am y gefnogaeth a gafodd i gynhyrchu'r ffilm wrth dderbyn gwobr BAFTA ym mis Chwefror am y ffilm gyntaf orau gyda chynhyrchydd y ffilm, Emily Morgan.
Roedd y cefnogwyr ariannol yn cynnwys BFI, Film4 ac asiantaeth Ffilm Cymru, sydd wedi cefnogi Ms Nyoni trwy gronfa ar gyfer datblygu talentau newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Ffilm Cymru eu bod "mor falch o Rungano, Emily a'r tîm i gyd, a gynhyrchodd ffilm mor rymus a chyfareddol yn 'I Am Not a Witch'".
"Mae'n wych i weld talent Cymreig newydd yn ennyn cydnabyddiaeth yn rhyngwladol, a gallen ni ddim aros i weld y rhan nesaf o daith Rungano."
Bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn theatrau yn Efrog Newydd fis nesaf.
Mae'r stori yn 'I Am Not A Witch' wedi ei gosod yn y cyfnod presenol ac yn dilyn hanes Shula - merch wyth oed sy'n dod i'r amlwg mewn pentref gwledig yn Zambia heb oedolyn ar ei chyfyl ac yn cael ei chyhuddo o fod yn wrach.
Mae'n cael ei dedfrydu i dreulio gweddill ei hoes mewn gwersyll gwladol ar gyfer gwrachod, lle mae'r rhai sy'n ei chadw'n dweud wrthi y byddai'n cael ei throi'n afr petasai'n ceisio dianc.
Ond mae argyfwng posib ar y gorwel yn ei gorfodi i wneud penderfyniad anodd.
Fe dreuliodd Ms Nyoni fis yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y cynhyrchiad mewn gwersyll gwrachod yn Ghana.
Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf drwy'r byd yn ystod Gŵyl Ffilm Cannes yn 2017 ac yna ei dangos mewn nifer o ganolfannau ar draws Cymru.