Gwedd newydd i gymdeithas ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor wedi penderfynu ailwampio'r gymdeithas, wedi i ennyn diddordeb ymhlith aelodau newydd brofi'n her.
Mae'r gymdeithas bellach wedi ei henwi ar ôl John Gwilym Jones, darlithydd, dramodydd, awdur a bardd, gyda'r bwriad o gynnal digwyddiadau amrywiol i ehangu ei hapêl i fyfyrwyr.
Cafodd y gymdeithas wreiddiol ei sefydlu yn 1923, dan lywyddiaeth R. Williams-Parry, a chafodd yna'i hailsefydlu eto gan fyfyrwyr yn 2012.
Yn ôl cadeirydd y gymdeithas, mae cynnal gweithgarwch ac ennyn diddordeb o'r newydd wedi bod yn dalcen caled yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Esboniodd Osian Owen, cadeirydd y gymdeithas, fod cynnal digwyddiadau cyson yn ymwneud â byd y ddrama yn "anodd".
"Mae'n anodd iawn cynnal gweithgareddau drama'n unig ac yn anodd iawn ennyn diddordeb pobl yn y ddrama Gymraeg," meddai.
Daeth criw ynghyd i benderfynu ar ddyfodol y gymdeithas, gan weithio at sicrhau nad oedd presenoldeb y gymdeithas yn diflannu'n llwyr.
Esboniodd Mr Owen: "Da ni'n cael trafferth ennyn diddordeb pobl i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r gymdeithas ddrama, felly dyma benderfynu ei ail-lansio fel cymdeithas lenyddol a bwrw'r rhwyd yn ehangach."
Amrywiaeth ehangach
Cafodd y gymdeithas ei hailfedyddio gydag enw un o hoelion wyth Cymdeithas y Ddrama Gymraeg wreiddiol, John Gwilym Jones.
Dywedodd Mr Owen: "Trwy ei throi hi'n gymdeithas lenyddol 'da ni'n mynd i allu cael amrywiaeth ehangach o weithgareddau o fyd y nofel i fyd y gynghanedd, barddoniaeth, ac wrth gwrs parhau gyda'r ddrama hefyd a pharhau efo'r arfer flynyddol o gynnal cynhyrchiad."
Ym mis Mawrth 2019, bydd y gymdeithas yn perfformio un o ddramâu John Gwilym Jones ei hun.
Yn ogystal, mae'r gymdeithas wedi trefnu llu o ddigwyddiadau llenyddol amrywiol gan gynnwys stomp, gwersi cynganeddu, gweithdy drama, ymweliad â'r Ysgwrn a sgwrs fydd yn dathlu gwaddol John Gwilym Jones.