Byrbryd ysgol anarferol Ifan Evans

  • Cyhoeddwyd
Oeddech chi'n mwynhau tost a fflapjac tra'n ysgol Uwchradd Tregaron?
Disgrifiad o’r llun,

Oeddech chi'n mwynhau tost a fflapjac yn ysgol uwchradd Tregaron?

Mae'r cyflwynydd Ifan Evans wedi atgyfodi llawer o atgofion ar Facebook heddiw.

Ond mae ei gyfuniad o dost a fflapjac wedi hollti'r genedl gyda rhai'n methu â deall apêl y byrbryd.

Yn ôl Ifan: "Ma fe'n rhwbeth ges i am y tro cynta' ar ôl symud i Ysgol Uwchradd Tregaron.

"Sylwi yn ystod toriad y bore bod pawb yn ca'l darn neu ddau o dost ac yn hwpo fflapjac yn y canol. O ni 'rioed 'di gweld y fath beth - ond mi 'nath e newid fy mywyd."

Ifan amlwg wrth ei fodd a'i gyfuniad
Disgrifiad o’r llun,

Ifan yn amlwg wrth ei fodd â'i gyfuniad

Ac nid dyna'r unig eitem o fwydlen ffreutur yr ysgol wnaeth newid bywyd Ifan.

"Mi o'dd pizzas y ffreutur yn rhywbeth anhygoel hefyd, a 'dwi erioed 'di cael rhai tebyg ers hynny. Darn o fara gwyn wedi'i dorri yn ei hanner, wedyn tomato purée a caws, a mewn i'r ffwrn. O'dd rhywbeth anhygoel am y blas," meddai.

Mae'n amlwg fod Ifan wedi'i syfrdanu gyda'r cyfuniadau od yma o fwydydd, ond efallai fod gyda chi enghreifftiau tebyg o'ch dyddiau ysgol chi?

Os felly cysylltwch gyda ni ar Twitter: @BBCCymruFyw neu Facebook, neu gallwch gysylltu drwy lenwi'r ffurflen isod neu e-bostio drwy glicio yma, dolen allanol: