Bwyty Gannets yn Aberystwyth yn cau wedi 34 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd bwyty adnabyddus yn Aberystwyth yn gweini ei bryd olaf ddydd Sadwrn wrth i'r perchnogion gau'r drysau am y tro olaf.
Cafodd bistro Gannets ei brynu yn 1984 gan Dilys a David Mildon, ac ers hynny maen nhw wedi croesawu miloedd o fyfyrwyr a thrigolion lleol drwy'r drysau.
Ond gyda'r ddau ohonyn nhw yn eu 70au bellach, maen nhw wedi penderfynu ei bod hi'n bryd rhoi'r gorau i'r gwaith o'r diwedd.
"Ni 'di bod yma am 34 o flynydde, ac mae wedi bod yn amser hapus iawn," meddai Dilys.
Chwaeth yn newid
Penderfynodd y cwpl i brynu'r bwyty ar ôl symud yn ôl i Gymru o Lundain, gyda Dilys yn cael y cyfle yn dychwelyd i Geredigion ble cafodd ei magu.
"Roedd y gŵr yn gweithio gyda British Airways, ac roedd e'n hedfan llawer, a ffwrdd o gartref tipyn, ac fe benderfynon ni cyn ein bod ni'n 40 y bydden ni'n prynu bwyty," meddai.
"Ro'n i'n falch o allu dod nôl i Gymru."
Gyda Dilys yn gweini, a David yn gyfrifol am bethau yn y gegin, llwyddodd y ddau i fagu enw i'r lle fel rhywle i fynd ar gyfer bwyd cartref blasus a chroeso cynnes.
"Y rheswm yw bod y ddou ohonon ni wedi mwynhau gweithio ac ma' fe'n dod drosodd i'r bobl wedyn - dwi wrth fy modd yn gweithio allan yn y blaen," meddai Dilys.
Yn y dyddiau cynnar, meddai, byddai'r bwyty yn gweini llawer o fyfyrwyr, ac mae'r ddau wedi cael eu cadw'n brysur ers hynny gyda phopeth o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r dref i'r partïon Nadolig blynyddol.
Serch hynny, mae Dilys yn dweud eu bod nhw wedi gorfod ceisio newid gyda'r oes hefyd wrth i natur y diwydiant bwyd a diod newid.
"Ni 'di gweld pethau'n newid yn ofnadwy, fel mae pobl a'u dewis nhw o fwyta," meddai.
"Ni'n 'neud bwydydd gyda llawer ar y plât, ond mae pobl diwrnodie hyn yn lico llai o fwydydd ar y plât, ac mae'r ffasiwn wedi newid.
"Mae pobl yn mynd fwy am llysieuol, pysgod, ac mae pob un yn arbenigo mewn gwahanol fwydydd mewn llefydd bwyta y diwrnodie hyn."
'Rhaid gorffen'
Gyda'r ddau wedi bod yn ystyried ymddeol ers tipyn, mae Dilys yn dweud eu bod nawr wedi penderfynu mai dyma'r adeg o'r diwedd i roi'r ffedogau i gadw am y tro olaf.
"Fi'n credu 'sen ni bach yn ifancach bydden ni'n medru cario 'mlaen o hyd," meddai.
"Ond mae'r oedran wedi dod, a hefyd dwi eisiau hela peth amser gyda'r wyrion sy'n byw yn Llundain a mynd ar ambell wyliau os allai, ac amser ymlacio."
Ychwanegodd: "Mae lot wedi gofyn a ydyn ni yn gorffen, a dweud 'chi'n siŵr o fynd 'mlaen am wythnos arall'.
"Ond fi 'di gweud na, rhaid gorffen, felly gobeithio nos Sadwrn gawn ni dipyn o ddathlu."