Pryder am ddyfodol 50 o swyddi yn Nyffryn Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae 50 o swyddi yn y fantol wrth i Ganolfan Bwyd Cymru ym Modnant yn Nyffryn Conwy gael ei roi ar y farchnad.
Yn ôl y perchnogion, Michael a Caroline McLaren, dydi'r busnes fel ag y mae ddim yn gynaliadwy ac maen nhw wedi penodi'r cyfrifwyr Smith Cooper i ddod o hyd i brynwr.
Cafodd y Ganolfan ei sefydlu yn 2012 a'i hagor yn swyddogol yn yr un flwyddyn gan y Tywysog Charles.
Dywed y perchnogion eu bod wedi buddsoddi yn sylweddol yn y safle dros gyfnod o chwe blynedd.
Fe wnaeth y safle dderbyn £2.7m o arian cyhoeddus, gyda'r fenter gyfan yn werth bron i £6.5m.
Mewn datganiad dywedodd cwmni Smith Cooper: "Mae'r busnes wedi wynebu pwysau ariannol aruthrol dros gyfnod sylweddol ac er gwaethaf ymdrechion sylweddol dyw'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy.
"Dros y mis nesaf fe fydd y cwmni yn parhau i fasnachu wrth chwilio am brynwr."
Mewn datganiad dywedodd Michael McLaren: "Rydym yn drist iawn, er gwaetha ein hymdrechion gorau mae swyddi ein staff ffyddlon dan fygythiad.
"Rydym yn mawr obeithio y gallai rhywun gymryd y busnes er mwyn diogelu swyddi."
Dywedodd Smith Cooper fod y gweithwyr yn ymwybodol o'r datblygiadau ac o natur anodd a sensitif y sefyllfa.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Austin Roberts, fod y busnes yn bwysig i'r ardal am nifer o resymau.
"Mae'n help i'r diwydiant twristiaeth sy'n bwysig iawn yn Nyffryn Conwy a hefyd mae'n cyflogi pobl leol, rhai yn llawn amser a nifer fawr yn dymhorol.
"Hefyd mae'r lle yn prynu nwyddau - cig ac yn y blaen gan amaethwyr lleol, ydi mae'n bwysig i'r ardal."