Creu 'cerflun efydd mwya'r DU' yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant
- Cyhoeddwyd
Mae un o gerfluniau efydd mwyaf y DU yn cael ei greu mewn ffowndri fechan yng nghefn gwlad Powys.
Mae cerflun 'Messenger', sy'n darlunio "merch bwerus", yn cael ei gastio yn ffowndri Castle Fine Arts yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Cafodd Joseph Hillier o Gernyw ei gomisiynu i greu'r cerflun a fydd yn cael ei roi y tu allan i'r Theatre Royal yn Plymouth.
Mae'n cael ei greu mewn dull traddodiadol, gan ddefnyddio mowldiau cwyr i siapio'r metel, ond mae'r cerflun mor fawr bu'n rhaid ei adeiladu fesul darn.
Pan fydd y 200 o baneli'n barod, bydd darnau'r cerflun yn cael eu weldio ynghyd gan 30 o grefftwyr.
Yn ôl Mr Hillier, dyma fydd y cerflun efydd mwyaf yn y DU yn ôl ei gyfaint - sy'n 25.6 metr ciwbig ac yn pwyso naw tunnell a hanner.
"Mae'n ddarn mawr iawn. Os ydw i'n gorwedd ar lawr dwi'r un maint ag un o'r traed," meddai.
Mae Mr Hillier yn gobeithio y bydd modd cludo'r cerflun yn ei gyfanrwydd i Plymouth, wedi iddo gael ei roi at ei gilydd.
Wrth sôn am ei weld am y tro cyntaf, dywedodd Mr Hillier: "Wrth ddod at y cerflun mewn cwm yng Nghymru, yn y ffowndri yma, cefais sioc am nad oeddwn cweit yn disgwyl iddo fod y maint yma.
"Ond roedd ganddi'r ysgafnder yma. Roedd hi'n teimlo'n ysgafn ar ei thraed.
"Weithiau, pan rydych yn gwneud rhywbeth ar raddfa fawr mae'n teimlo'n drwm, felly roeddwn yn falch iawn o gael y teimlad [ysgafn] yna."
Esboniodd Mr Hillier mai gweld actorion yn ymarfer y ddrama Othello ysbrydolodd y darn.
"Mae'n ferch ifanc, bwerus, yn rym cryf, ar fin trawsnewid y byd gyda'i gweithredoedd... mae'n drosiad am yr hyn sy'n gallu cael ei wneud gan theatr arbennig."
Mae'r cerflun yn rhan o brosiect gwerth £7.5m i adnewyddu'r Theatre Royal yn Plymouth, a'r gobaith yw bydd y cerflun yn "borth" i bobl gerddedd oddi tano.
Yn ôl prif weithredwr y theatr, Andrian Vinken, mae'r gwaith yn "syfrdanol".
"Roeddem yn gwybod o'r dechrau ein bod eisiau darn trawiadol ar raddfa fawr, ond dim ond wrth ddod yma a gweld rhan fach o'r darn a theimlo'r cyffro a'r balchder gan bawb yma'n gweithio arno, mae modd sylweddoli cymaint o brosiect yw hwn a sawl un sy'n rhan o'i greu," meddai.