Cyfraith y locsyn a rheolau difyr eraill Cymru

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl i fachgen naw oed wyrdroi cyfraith oedd yn gwahardd taflu peli eira yn Severence, Colorado, mae Cymru Fyw wedi bod yn chwilio am reolau od fu yng Nghymru dros y canrifoedd.

Diolch i'r drefn, mae'r rhain hefyd wedi hen ddiflannu.

Ffynhonnell y llun, ANDREW CABALLERO-REYNOLDS

1. Cyfraith y locsyn

Roedd gŵr yn cael curo ei wraig yn y canol oesoedd os oedd hi'n sarhau ei farf. Os ydi hynny'n swnio'n annheg, roedd hithau'n cael ei adael o os oedd ganddo anadl drwg.

Rheolau llym iawn, ond rhai sy'n gwneud mwy o synnwyr o wybod am gefndir y cyfnod.

Nid rhywbeth ffasiynol i hipsters oedd locsyn bryd hynny ond symbol o wrywdod dyn, ac roedd gwynt drwg yn arwydd o berson sâl iawn.

Mewn cyfnod heb wasanaeth iechyd a phan roedd parhad llinach yn beth pwysig, roedd rhaid cael barf ac anadl derbyniol er mwyn cael priodas lwyddiannus.

Ffynhonnell y llun, Eric CHRETIEN
Disgrifiad o’r llun,

Siawns na fyddai neb yn sarhau barf y dyn yma

2. Cerddi'r cywilydd

Doedd 1402 ddim yn gyfnod da i fod yn glerwr yng Nghymru gan fod crwydro'r wlad efo telyn a chanu cerddi yn erbyn y gyfraith.

Roedd yr un peth yn wir am gyfarfod gyda Chymry eraill, dal swydd gyhoeddus, a phrynu eiddo yn Lloegr. Pam? Mae'r cliw yn y dyddiad.

Cafodd y Deddfau Penyd eu pasio yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr.

3. Dim cosb am ladd

Roedd talu galanas, sef iawndal, yn rhan bwysig o gyfraith Hywel Dda.

Ond os oedd gan ŵr odderchwraig - neu concubine - byddai ei wraig yn cael ei churo heb orfod talu 'run geiniog hyd yn oed os oedd hi'n ei lladd hi.

Ffynhonnell y llun, WIKIPEDIA

4. Gwaeth na'r gilotîn

Yn ôl cyfraith Hywel Dda, roedd gŵr yn cael curo gwraig anffyddlon efo pastwn oedd mor dew â'i fys canol.

Os oedd dyn yn treisio dynes roedd yn gorfod talu dirwy.

Os nad oedd o'n gallu talu doedd ond un peth i'w wneud. Torri ei geilliau i ffwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd castell a muriau tref Caernarfon yn cadw'r Cymry allan

5. Gwahardd y Cofis

Yng Nghaernarfon yn ystod y cyfnod Normanaidd, doedd y brodorion ddim yn cael mynd oddi fewn i furiau'r dref.

Felly doedd gan Gymry Caernarfon ddim hawl i gerdded o gwmpas eu tref eu hunain.

6. Y Welsh Not

Un rheol gyfarwydd iawn - a hurt bost - ydi'r Welsh Not.

Roedd ffon neu blac gyda'r llythrennau WN arni yn cael ei basio rhwng plant yr ysgol pan oeddent nhw'n cael eu clywed yn siarad Cymraeg yn lle Saesneg.

Byddai'r un oedd gyda'r Welsh Not - neu'r Welsh Note - ar ddiwedd y dydd yn cael cosb.

Er nad oedd hwn yn bolisi swyddogol, nac yn cael ei ddefnyddio drwy'r wlad - mae tystiolaeth gref ohono'n cael ei ddefnyddio yng Nghaerfyrddin, Ceredigion a Meirionnydd cyn 1870.

7. For Wales, see England...

Y diffiniad statudol am 'Lloegr' yn y 'Wales and Berwick Act 1746' oedd: 'England, Wales and Berwick-upon-Tweed'.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 wnaeth wyrdroi'r ddeddf.

Ffynhonnell y llun, CHARLY TRIBALLEAU
Disgrifiad o’r llun,

A fyddai'r gwartheg yma yn ddigon perffaith i Frenin y Deheubarth?

9. Bywyd gwerthfawr

Yn y canol oesoedd, roedd gan bob person mewn cymdeithas werth ar eu bywyd, sef galanas, a gwerth am anaf, sef sarhaed. Ond roedd maint rhain yn dibynnu ar statws y person.

Doedd bywyd caethwas yn werth dim byd - i'w deulu o leiaf. Y perchennog yn unig fyddai'n cael arian am y golled.

Ar y llaw arall roedd sarhaed brenin Deheubarth wedi ei osod mor uchel, roedd yn amhosib ei gyflawni. Y pris oedd llinell hir iawn o wartheg perffaith.

Efallai hefyd o ddiddordeb:

Arddangos llawysgrif Cyfraith Hywel Dda

'Mwy o sylw' i hanes tywysogion Cymru

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw