Arddangos llawysgrif Cyfraith Hywel Dda

  • Cyhoeddwyd
Cyfraith Hywel DdaFfynhonnell y llun, Sotheby's
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd yr ocsiwn yn gyfle unigryw i ddod ag un o wir drysorau Cymru adref'

Am y tro cyntaf mewn 200 mlynedd fe fydd llawysgrif o Gyfreithiau Hywel Dda i'w weld yng Nghymru.

Bydd y gwaith i'w weld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Fe wnaeth y Llyfrgell brynu'r llawysgrif mewn ocsiwn yn Sotheby's yn Llundain ar Orffennaf 10 am £541,250.

Daeth cymhorthdal o £467,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda gweddill y gyllideb yn dod o goffrau'r Llyfrgell ei hun a grant gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y llawysgrif i'w weld yn gyhoeddus tan Awst 31 cyn ei rhoi o'r neilltu er mwyn gwneud gwaith cadwraeth gan gynnwys ail-rwymo a digido.

'Ewyllys a phenderfyniad chwim'

"Mae'n amlwg, heb gefnogaeth ariannol sylweddol ac ewyllys a phenderfyniad chwim y Gronfa, ni fyddai'r Llyfrgell wedi gallu prynu'r llawysgrif hon," meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymru o'r Gronfa, bod y llawysgrif yn un o wir "drysorau Cymru".

"Rwy wrth fy modd ei gweld yn nôl ar dir Cymru ac yn y Llyfrgell Genedlaethol lle gall arbenigwyr nawr ei hastudio a'i dadansoddi fel y cawn well dealltwriaeth o'i chynnwys am y tro cyntaf.

"Gobeithiaf y bydd pobl leol ac ymwelwyr yn bachu ar y cyfle unigryw i weld y darn pwysig hwn o hanes Cymru wrth iddi gael ei harddangos tan ddiwedd mis Awst."

Arddangosir y llawysgrif yn Ystafell Hengwrt y Llyfrgell, sef oriel bwrpasol y Llyfrgell ar gyfer arddangos llawysgrifau a llyfrau prin.

Ar hyn o bryd ceir yno hefyd arddangosfa o hen seliau Cymreig.

Wedi cyfnod yr arddangosfa bydd arbenigwyr y Llyfrgell yn astudio'r llawysgrif, ac yn ei thrin yn gadwriaethol gan wneud copi ffacsimili ohoni.

Gwneir hefyd gopi digidol o'r llawysgrif fel y bydd modd ei gweld maes o law ar wefan y Llyfrgell.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol