Huw Stephens: Perygl i Gaerdydd droi'n ddinas o fflatiau

  • Cyhoeddwyd
huw stephensFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddia Huw Stephens fod rhaid i Gaerdydd "fod yn ofalus" nad yw'n esblygu'n ddinas o fflatiau

Mae perygl i Gaerdydd droi'n "ddinas o fflatiau" yn ôl y DJ Huw Stephens, wrth iddo ymateb i gynllun i ddymchwel adeiladau adnabyddus yn y ddinas.

Mae datblygwyr yn awyddus i ddymchwel adeiladau ar Gilgant Guildford - sy'n gartref i far Gwdihŵ, lleoliad cerddorol adnabyddus - ac adeiladu fflatiau i fyfyrwyr yn eu lle.

Mae dros 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i achub y stryd, sydd hefyd yn gartref i fwytai a Neuadd y Seiri Rhyddion.

Yn siarad gyda rhaglen Taro'r Post ddydd Gwener, dywedodd y DJ bod "venues hanesyddol" i gynnal gigiau yn bwysig ymhob dinas, a bod Gwdihŵ yn blatfform i gerddoriaeth amgen, sydd "wastad 'di rhoi bands Cymraeg 'mlaen".

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn cefnogi lleoliadau sy'n cynnal cerddoriaeth fyw, ac mae perchnogion yr adeiladau wedi cael cais am ymateb.

'Yw e'n beth iach?'

Cyfaddefodd Mr Stephens ei fod wedi bod yn "bryderus iawn bod Caerdydd yn newid gormod" yn y gorffennol, ond bod newid yn rhan annatod o'r ddinas yn datblygu.

Serch hynny, dywedodd hefyd fod yna "filoedd o fflats yng Nghaerdydd" yn barod.

"Mae lot o fyfyrwyr moyn bod, o be' dwi'n ddeall, yng nghanol y dref, ond wedyn mae'n rhaid chi feddwl: ydy apêl Caerdydd yn dirywio wedyn os ma' dim ond fflats sy' gyda ni yng nghanol y ddinas?

"Mae'n lyfli i'r person sy'n byw yna ac yn talu rhent i fyw yna, ond i bawb arall - i'r twristiaid, i bobl sy' jyst yn mynd mewn unwaith y mis, unwaith bob deufis, be' bynnag - yw e'n beth da, yw e'n beth iach?"

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolwyr Gwdihŵ yn awyddus i barhau i drefnu gigiau yn y dyfodol, serch gorfod gadael yr adeilad

Ychwanegodd: "Pa mor bell mae'n mynd? Pryd fyddan nhw'n gweud: Wel, mae'r arcade yma'n iawn, ond ch'mod beth, dyw'r rhent ddim yn ddigon. Os newn ni droi'r arcade 'ma mewn i fflats, a chael cannoedd o filoedd o bunnoedd yn ychwanegol..."

"Mae'n rhaid i Gaerdydd, dwi'n credu - fel rhywun sydd o Gaerdydd - rhaid iddo fod yn ofalus bo' ni ddim yn troi mewn i ddinas o fflats.

"A fi'n gwbod bod angen llefydd i fyw, fi'n deall hynny, ond oes angen e slap bang yn y canol?"

Effaith ar fusnesau'r stryd

Dywedodd Tamsin Ramasut, sy'n rhedeg Thai House ar Gilgant Guildford, bod y penderfyniad i beidio ag adnewyddu'r les yn "effeithio ni'n fawr iawn".

Mae'r teulu wedi bod yn rhedeg y busnes yno ers degawdau, a brawd Ms Ramasut, Tom, sy'n rhedeg Gwdihŵ.

"Mae 'mrawd i 'efo Gwdihŵ drws nesa ac mae o 'di rhoi llwyth o egni i ddatblygu'r busnes yna dros y 10 mlynedd ddiwethaf," meddai.

"A nawr mae e 'di sefydlu ac mewn lle mae pawb yn nabod, a Thai House - dwi'n gweithio yn y Thai House 'efo Dad, - ac mae dad wedi bod yma ers dros 20 mlynedd yn yr adeilad yma, a wel, mae'n rhan o'r teulu."

Ffynhonnell y llun, Google

Mae'r bwyty yn cyflogi 40 o bobl, a dywedodd Ms Ramasut bod y lleoliad ei hun yn "bwysig iawn" i lwyddiant y busnes.

"Mae'r bwyty yma wedi datblygu mas o'r adeilad fel petai... mae Dad wedi buddsoddi llwyth o'n harian ni fel teulu yn yr adeilad, ac mae pawb yn gwybod bo ni yma."

Datgelodd Ms Ramasut bod Thai House wedi bod yn chwilio am leoliad arall ers blwyddyn, a bod cael lleoliad cystal i'r hyn sydd ganddynt yn "anodd iawn".

Cyngor yn 'cefnogi cerddoriaeth'

Mewn ymateb i'r sylwadau, dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod y cyngor "wedi ymrwymo i gefnogi cerddoriaeth fyw yn y ddinas" a'i fod yn bwysig helpu lleoliadau fel Gwdihŵ i oroesi.

"Rwy'n gwybod bod y lleoliad wedi postio twît yn dweud ei fod yn dymuno parhau yn y ddinas a'i fod yn chwilio am le newydd.

"Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'w helpu i chwilio a byddaf yn gofyn i swyddogion gysylltu â nhw er mwyn trafod unrhyw leoliad newydd posibl sydd ar gael.

"Cymerwyd y penderfyniad i ddod â'r prydlesi ar Guildford Crescent i ben gan y landlord.

"Nid oes gennym unrhyw bwerau i rwystro hwn, ond byddwn yn ceisio siarad â'r landlord i weld a ellir gwneud unrhyw beth.

"Rydym yn awyddus i drafod gyda phob parti er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen."