Yr Urdd yn gwahardd bechgyn o gystadleuaeth pêl-rwyd

  • Cyhoeddwyd
Pêl-rwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae bechgyn Ysgol San Siôr wedi bod yn ymarfer am y gystadleuaeth ochr yn ochr â'r merched

Mae bechgyn wedi cael eu gwahardd o gystadleuaeth pêl-rwyd yr Urdd, gan olygu bod nifer sydd wedi bod yn ymarfer trwy'r flwyddyn yn colli allan.

Cafodd ysgolion wybod yn ddiweddar na fydd bechgyn yn cael cymryd rhan yn y gystadleuaeth, sydd â'i rowndiau terfynol yn Aberystwyth ym mis Mai.

Dywedodd yr Urdd mai'r nod yw annog mwy o ferched i gymryd rhan, tra bo cryfder corfforol bechgyn weithiau'n gallu "gwneud y gystadleuaeth yn un annheg".

Bydd merched yn cael chwarae yng nghystadleuaeth pêl-droed y mudiad gyda'r bechgyn.

'Ymarfer ers dros flwyddyn'

Fe wnaeth Ysgol San Siôr yn Llandudno ennill cystadleuaeth y sir y llynedd a mynd ymlaen i gystadlu yn y rowndiau terfynol.

Bryd hynny roedd bechgyn blwyddyn pump a chwech yn cael cystadlu ochr yn ochr â'r merched.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lisa Jones bod y disgyblion wedi ysgrifennu at yr Urdd i fynegi eu siom

Dywedodd Lisa Jones, athrawes cyfnod sylfaen yn yr ysgol, bod disgyblion yn siomedig gyda'r penderfyniad i droi'r gystadleuaeth yn un i ferched yn unig.

"Mae'r bechgyn wedi ypsetio efo'r penderfyniad," meddai.

"Maen nhw wedi bod yn ymarfer efo ni am dros flwyddyn rŵan, bob wythnos. Dydy o ddim yn benderfyniad sydd wedi mynd lawr yn dda ganddyn nhw.

"Dwi'n meddwl efallai bod 'na le i'r Urdd edrych ar sut mae'r byd wedi newid a sut mae genethod a bechgyn yn fwy cyfartal, a bod 'na le i'r bechgyn chwarae chwaraeon oedd yn draddodiadol yn chwaraeon genethod, fel bod y genethod rŵan yn chwarae chwaraeon sy'n draddodiadol i fechgyn."

Ychwanegodd bod y disgyblion wedi ysgrifennu at yr Urdd i fynegi eu siom ynglŷn â'r penderfyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Urdd bod cryfder corfforol bechgyn yn gallu "gwneud y gystadleuaeth yn un annheg"

Dywedodd Urdd Gobaith Cymru mewn datganiad: "Y prif reswm dros y penderfyniad oedd i sicrhau fod modd i ferched gymryd rhan mewn cystadleuaeth lle mae'r amgylchiadau yn deg i bawb.

"Mae hefyd bwlch sylweddol o safbwynt bechgyn a merched sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a thrwy gynnig cystadleuaeth i ferched yn unig yn y gamp hon sydd â llwybr clir ar gyfer cyfranogiad o'r oedran cynradd i'r uwchradd rydym fel mudiad yn gweithio tuag at leihau'r bwlch hwnnw.

Ychwanegodd bod ganddynt yr hawl i gynnal digwyddiadau chwaraeon un rhyw "pan ystyrir bod amgylchiadau gan gynnwys cryfder corfforol a chorffoledd (physique) yn gwneud y gystadleuaeth yn un annheg".

Dywedodd y mudiad bod eu canllawiau yn cael eu hadolygu'n flynyddol fel rhan o "werthusiad parhaus yr adran chwaraeon".