Deio Jones: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd

Mae Deio Jones o Ynys Môn yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd, ac mae'n dipyn o giamstar ar goginio...

Ffynhonnell y llun, Deio Jones

Beth sy' i de heno?

Rainbow Trout Fillets gyda reis a ffa gwyrdd.

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Fi. Mynd i gyfarfod yr 'ogia i wylio pêl droed wedyn.

Beth yw'r sialens fwya' i ti wrth benderfynu beth sy' i de?

Pa mor hir mae'n gymryd ac os oes gennai fynadd coginio rhywbeth call.

Ffynhonnell y llun, Deio Jones
Disgrifiad o’r llun,

Pryd o fwyd iachus

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Dwi'n faestro ar wneud Spagetti Bolognese os ga i ddweud.

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Paced Pasta pum munud. Dim ond angen ychwanegu dŵr, llond llwy o fenyn a'i roi yn y Micro am bum munud.

Ffynhonnell y llun, Deio Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r meicrodon yn ddefnyddiol ar gyfer swper heno hefyd...

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Pan oeddwn yn fenach, roeddwn yn lawer fwy ffyslyd nag ydw i heddiw. 'Dwi'n fwy parod i drio pethau newydd ers i mi fynd yn hynach.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Chicken Flatbread o The Beachcomber ym Menllech.

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Dwi'n un drwg am fwyta Caramel Waffles yn gwely cyn cysgu.

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?

Cefais falwod yn Ffrainc ar drip sgio hefo'r ysgol 'chydig o flynyddoedd yn ôl, a 'dwi dal ddim yn siwr os wnes i eu mwynhau nhw ne' beidio.

Ffynhonnell y llun, Deio Jones

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Ma' Mam yn un dda am wneud te 'stwnsh' sef fel ryw fath o buffet sydyn o bitsa, potato wedges a llwyth o gyw-iâr. Mae Dad yn giamstar ar wneud caserols yn y slow-cooker, neu'r 'popty pwyll' felly mae rheini'n agos at fy nghalon hefyd.

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Wrth wneud pasta neu wrth ferwi rhywbeth, rhoi llwy bren ar ben y sospan fel fod y dŵr ddim yn llifo drosodd.

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Coleslaw. Mae'n troi arnai erioed.