Llion Joshua: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd

Mae Llion Joshua, yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, yn rhedeg cwmni arlwyo ar gyfer y byd teledu yng Nghaerdydd. Yma mae'n hel atgofion am ei hoff brydau bwyd a beth sy' i de heno...

Ffynhonnell y llun, Llion Joshua

Beth sy' i de heno?

Sri Lanka Dahl. Ro'n i yno cyn Dolig, bwyd comfort efo atgofion da.

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Fi efo nghariad Chantelle ar ôl dod adre o'r gwaith.

Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?

Chantelle.

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Fel gwaith, mae gen i gwmni arlwyo i'r byd teledu, felly dwi angen medru coginio bwydydd o dros y byd. Ar ôl gweithio ym mwyty Moro yn Llundain, dwi'n mwynhau bwyd o'r Dwyrain Canol fwyaf.

Ffynhonnell y llun, Llion Joshua

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Beth bynnag sydd ar gael adra er enghraifft Pasta Arrabiata

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

O fod yn hogyn o Flaenau Ffestiniog, mae byw i ffwrdd a thrafeilio wedi newid fy palate. Er, mae Mam yn ffantastig o gogydd.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Mae hynny'n hollol ddibynnol ar y tywydd, yr amser o'r flwyddyn a ble rydw i. Fy hoff fwyty yng Nghaerdydd ydy Milkwood.

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Da-da [losin] am hanner nos!

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin rwyt ti wedi ei fwyta/goginio?

Fermented fish. Mae fy mrawd yn byw yn Japan. Dydyn nhw ddim yn bwyta llawer o gynnyrch llaeth yn Japan felly mae eu ymateb nhw i gaws Stilton yn debyg iawn i'n ymateb ni i'r pysgodyn.

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Blasu'r bwyd trwy'r holl broses - o'r amrwd i'r coginio, a deall yr holl broses.

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Ym mwyty Tickets yn Barcelona a chyfarfod y brodyr Adria [y chefs]. Roedd gen i y wên fwyaf wrth adael oherwydd y bwyd.

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Na, heblaw madarch dwi ddim yn gyfarwydd â nhw.

Hefyd o ddiddordeb: