Carcharu tri am yr eildro am lofruddio dyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi cael dedfrydau hir o garchar am yr eildro am lofruddio dyn 29 oed o Gaerdydd, wedi i heddwas achosi i'r achos llys gwreiddiol yn eu herbyn ddymchwel.
Bu'n rhaid i'r diffynyddion ailsefyll eu prawf am lofruddio Lynford Brewster wedi iddi ddod i'r amlwg bod swyddog cyswllt teuluol yr heddlu wedi methu â datgelu bod cariad ei mab yn eistedd ar y rheithgor pan gafwyd nhw yn euog yn Llys Y Goron Caerdydd yn Rhagfyr 2016.
Fe gafwyd y tri yn euog am yr eildro wythnos yn ôl yn Llys Y Goron Bryste mewn gwrandawiad a gostiodd £80,000 i'r trethdalwr, ac mae'r Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant yn wynebu achos mewnol.
Cafodd Jake Whelan, 26 oed o Gaerdydd, Robert Lainsbury, 25 oed o Gaerwrangon, a Dwayne Edgar, 31 oed o Lanedern, ddedfrydau o oes o garchar gydag isafswm o 28, 26 a 25 mlynedd dan glo yn eu tro.
Bu farw Mr Brewster ar ôl cael ei drywanu yn ei gefn a'i goesau yn ystod ffrae dros gyffuriau.
'Erlid dyn diamddiffyn'
Mewn datganiad dywedodd ei fam, June Whittaker bod y "boen wedi bod mor ddwys" i'w deulu ers ei farwolaeth.
"Ychydig ddyddiau wedi marwolaeth Lynford, daeth ei bartner i wybod ei bod yn feichiog. Roedd e wir eisiau bod yn dad a nawr bydd ei ferch yn tyfu lan heb nabod ei thad."
Ychwanegodd: "Doedd e ddim yn angel ond fe oedd fy mab a dyw bywyd heb fod yr un peth ers ei farwolaeth."
Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Morris: "Roedd hwn yn ymosodiad digywilydd, brwnt a chiaidd gan y tri ohonoch hi, gan erlid dyn diamddiffyn oedd yn rhedeg i ffwrdd.
"O'r dystiolaeth, ni allaf fod yn sicr pa un ohonoch chi oedd yn gyfrifol am yr anaf farwol, ond rwy'n sicr bod pob un ohonoch chi â rhan parod o'r cynllun i ffeindio ac ymosod ar Lynford Brewster gyda chyllyll ac rydych yr un mor gyfrifol am y trywanu.
"Nid ar unrhyw adeg ydych chi wedi dangos edifeirwch am yr hyn wnaethoch chi nag am y dioddefaint rydych wedi ei achosi i eraill."
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud nad oedd y Ditectif Gwnstabl Bryant wedi cyflawni unrhyw drosedd, ond y bydd hi'n wynebu ymchwiliad gan gorff disgyblu mewnol yr heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2016