Celwydd heddwas yn dymchwel achos o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Ditectif Gwnstabl Rebecca BryantFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mab y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant mewn perthynas hirdymor ag aelod o'r rheithgor

Mae heddwas yn wynebu ymchwiliad mewnol am iddi fod yn gyfrifol am ddymchwel achos llys yn erbyn tri llofrudd.

Fe fethodd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant - swyddog cyswllt teuluol yn yr achos - a datgelu bod cariad ei mab yn eistedd ar y rheithgor yn achos llofruddiaeth Lynford Brewster yn 2016.

Yr wythnos yma, cafodd Dwayne Edgar, 31, Jake Whelan, 26, a Robert Lainsbury, 25, eu canfod yn euog - am yr ail waith - o lofruddio Mr Brewster.

Er i'r tri eu cael yn euog o'r un cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Rhagfyr 2016, roedd yn rhaid cael achos arall o'r newydd ar gost o £80,000 i'r trethdalwr oherwydd i berthynas y Ditectif Gwnstabl Bryant a Lauren Jones ddod i'r amlwg.

Anfonodd y Ditectif Gwnstabl Bryant, 46, negeseuon testun at Miss Jones yn ei hannog i guddio'r ffaith eu bod nhw'n adnabod ei gilydd.

Fe wnaeth y Ditectif Gwnstabl Bryant hyd yn oed gynnig lifft i Miss Jones i'r llys.

'Wedi dweud celwydd'

Yn ôl dyfarniad yn y Llys Apêl, fe ddywedodd yr heddwas "gelwydd", er iddi gyfaddef wedyn ei bod hi'n adnabod Miss Jones.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd Ditectif Gwnstabl Bryant wedi cyflawni unrhyw drosedd, ond y bydd hi'n wynebu ymchwiliad gan gorff disgyblu mewnol yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lynford Brewster ym mis Mehefin 2016

Fe eisteddodd y Ditectif Gwnstabl Bryant yn y llys gyda theulu Mr Brewster, ychydig lathenni oddi wrth y rheithgor.

Cafodd y tri diffynnydd eu canfod yn euog wedi saith wythnos o achos yn Llys y Goron Bryste yr wythnos hon.

Byddan nhw'n cael eu dedfrydu yn ddiweddarach fis Mawrth am lofruddio Mr Brewster yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2016.