Carcharu tri am lofruddiaeth dyn 29 oed o Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lynford BrewsterFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Lynford Brewster

Mae tri dyn wedi eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio dyn 29 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd Lynford Brewster o ardal Llanedern ei drywanu i farwolaeth ganol dydd ym mis Mehefin 2016.

Cafodd Jake Whelan, 24 oed, o Gaerdydd ei garcharu am 32 o flynyddoedd, Robert Lainsbury, 23 oed o Gaerwrangon garchar o 30 mlynedd a Dwayne Edgar, 29, o Lanedern garchar o 28 mlynedd.

Ar ôl y ddedfryd dywedodd y ditectif arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru: "Roedd llofruddiaeth Lynford Brewster yn ymosodiad creulon a chachgïaidd.

"Roedd yn lofruddiaeth oedd wedi ei chynllunio o flaen llaw gan dri dyn yn defnyddio cyllyll yng ngolau dydd."

Dywedodd bod nifer yn y gymuned leol wedi bod yn ddewr ac wedi ceisio achub bywyd Mr Brewster a bod hynny wedi dangos "ysbryd y gymuned."

30 heddiw

Cafodd teyrnged ei rhoi i Lynford Brewster gan ei deulu.

"Byddai Lynford wedi bod yn 30 oed heddiw. Roedd Lynford yn fab, cymar a brawd cariadus ac fe fyddai wedi bod yn dad fyddai wedi dotio ar ei ferch oedd ddim wedi ei geni.

"Rydym ni i gyd yn gweld ei eisiau bob dydd."

"Cafodd ei lofruddio yn y ffordd fwyaf creulon a chachwraidd yn olau dydd yng nghanol stad o dai.

"Dyw'r tri diffynnydd ddim wedi dangos unrhyw edifeirwch ac mae wedi bod yn ofnadwy o anodd i orfod gwrando ar y dystiolaeth a natur y farwolaeth yn llys y goron."