Bwydydd canoloesol y Cymry

  • Cyhoeddwyd

Pizza, rogan josh, pasta, kebab... dyma rai o fwydydd mwyaf cyffredin y Cymry erbyn hyn.

Ydi, mae cinio Sul dal ar y fwydlen ond anaml mae bwydydd cwbl draddodiadol Gymreig yn cael eu gweini bellach.

Aeth Cymru Fyw i ymchwilio beth oedd ar ein bwydlenni a holi pa mor iachus oedd y bwydydd yna mewn gwirionedd.

Bara o risgl coed...?

Roedd pethau'n wahanol iawn ganrifoedd yn ôl. Bryd hynny roedd deiet trwch y boblogaeth yn syml iawn.

Nid oedd llysiau mor gyffredin â heddiw - rhaid cofio na ddaeth tatws yma tan ganol y 1500au a moron yn hwyrach na hynny hyd yn oed - ac roedd yr arfer o dyfu llysiau gartref yn beth prin. Nid oedd bara yn gyffredin 'chwaith oherwydd bod cynaeafau'n methu yn aml.

Roedd newyn yn taro'r wlad bob rhyw saith mlynedd ac ar adeg o brinder bwyd roedd y tlodion yn gwneud math o does neu fara bras drwy ddefnyddio mes, gwreiddiau rhedyn a rhisgl coed!

Yr unig ffrwythau ar gael oedd beth bynnag a dyfai'n wyllt.

At ei gilydd roedd y bobl yn dibynnu'n helaeth ar gig hallt, menyn, llaeth ac uwd. Roedd cig a physgod yn cael eu halltu er mwyn eu gwneud yn haws i'w storio am gyfnod hir.

Aderyn y bwn, gŵydd a phaun

Diolch i feirdd y cyfnod oedd yn ymweld â phlasdai a neuaddau cyfoethog mae gennym gofnod weddol fanwl o'r bwyd oedd yn cael ei fwyta yno, bwydydd fel 'adar mewn bara'.

Math o bastai oedd hwn ond bod y crystyn yn feddalach ac yn cynnwys llawer iawn o wyau. Tu mewn mae'n debyg byddai cig aderyn y bwn, creÿr glas, gŵydd neu ffesant.

Yr aderyn mwyaf a gâi ei weini oedd paun. Hefyd ar y fwydlen oedd elyrch a gylfinir wedi eu pluo a'u rhostio a'u bwyta gyda saws sinsir, mwstard a finegr.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Paun = blasus?

Un arfer gwahanol iawn i heddiw oedd rhoi siwgr ar gigoedd a llysiau a chymysgu bwydydd melys a sawrus yn yr un pryd bwyd.

Roedd siwgr gwyn yn cael ei brynu mewn lympiau mawr yn y Canol Oesoedd ac roedd cogyddion yn rwbio dau lwmp yn ei gilydd fel bod y siwgr yn syrthio'n un gawod o bowdwr ar ben y bwyd nes ei fod wedi ei guddio bron.

Felly doedd dim pwdin ffurfiol ar ôl bwyd. Roedd y pryd melys yn cael ei weini 'run pryd â phopeth arall!

Cadw cegin canoloesol

Un sy'n gweini gwleddoedd canoloesol yw Llŷr Serw ap Glyn o Lanrwst. Ef oedd y cogydd ar raglen deledu S4C Y Llys, pan aeth â chriw o bobl i fyw, am dair wythnos, fel yr oeddynt yn y 1500au.

Roedd Llŷr yn darparu bwyd bob dydd gan ddefnyddio technegau a chyfarpar canoloesol.

"Mae coginio canoloesol yn dipyn o waith! Mae'n dasg llawn amser i gadw'r tân i fynd!" meddai.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr oedd y cogydd ar raglen Y Llys a oedd yn ail-greu llys o 1525

"O ran bwyd y bobl gyffredin, digon hawdd fyddai ail-greu'r rhain mewn cegin fodern: mater o ferwi cyfuniad o lysiau (bresych a maip neu swêj gan amlaf) ychydig o gig (cig moch hallt fel arfer) a barlys neu geirch am ychydig oriau i wneud potage sef un o brif seigiau'r bobl gyffredin.

"Mae paratoi gwledd yn fwy o gamp, gan fod disgwyl rhostio seigiau mawr o gig, weithiau anifail cyfan megis mochyn neu hwyaden, gan eu haddurno'n gywrain.

"Roedd pwyslais mawr ar addurno bwyd, a'i wneud mor wacky â phosib, megis cyfuno pen mochyn gyda chorff gŵydd i wneud saig a edrychai fel rhywbeth allan o ffilm arswyd!"

Mewn rhai tai mawr roedd yn arferiad rhoi llwch aur (gold leaf) ar ben cwrs o fwyd melys er mwyn dangos eu cyfoeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llŷr Serw ap Glyn bellach wedi hen arfer â choginio seigiau mawr o gig...

Yn ôl Llŷr Serw, "Rydym yn defnyddio sbeisys megis pupur, mwstard a turmeric heb ystyried eu bod ar un adeg wedi bod yn ddeunyddiau hynod o ddrud a phrin.

"Uchelwyr yn unig fyddai'n gallu fforddio sbeisys o wledydd eraill, a byddant wrth eu boddau'n arddangos eu cyfoeth i'w cyd-uchelwyr gan drefnu gwleddoedd ysblennydd.

"Yr unig broblem ydw i wedi ei chael o ran cael gafael ar gynhwysion ydi ceisio cael gafael ar baun ar gyfer gwledd!"

Deiet "isel iawn mewn fitaminau"

Ond er ei fod yn fwyd eithaf 'ecsotig' nid oedd deiet y cyfnod yn un iach iawn.

Yn ôl Iona Wyn Jones, deiategydd o Benygroes, Gwynedd, "Mae ymchwil ym maes maeth wedi dangos bod deietau sy'n cynnwys llawer o halen yn gallu arwain at bwysedd gwaed uchel a chanser y stumog. Hefyd byddai'r deiet canoloesol yn isel iawn mewn fitaminau a mwynau.

"Yn ogystal, byddai diffyg maetholion allweddol wedi bod yn gyffredin ac yn ystod cyfnodau o brinder bwyd eithafol fe fyddai wedi bod yn anodd bodloni gofynion protein ac ynni. Canlyniad hynny fyddai achosion o dwf stigedig (stunted growth) mewn plant yn ogystal â cholli pwysau.

"Er y byddai'r deietau wedi bodloni gofynion ynni a phrotein yn hawdd iawn roedd dibyniaeth drwm ar gig ac felly'n isel iawn mewn ffibr gan nad oedd llawer o ffrwythau, llysiau, ffa a bwydydd carbohydrad yn cael eu bwyta.

"Mae sôn am salad sy'n cael ei weini ond fe fyddai wedi bod yn llawer is na'r 400g y dydd a argymhellir i ni heddiw ar gyfer manteision iechyd hirdymor."

Felly efallai na ddylwn ni ddychwelyd at yr hen ffordd Gymreig o fyw (a bwyta) wedi'r cyfan!