Penarth yn derbyn statws cymuned ddi-blastig
- Cyhoeddwyd
Mae Penarth wedi derbyn statws "cymuned ddi-blastig" gan yr elusen gadwraeth forol, Surfers Against Sewage (SAS) am ei gwaith i leihau'r defnydd o blastig untro.
Mae ymgyrch yn y dref wedi derbyn cefnogaeth gan fusnesau lleol sy'n barod yn lleihau eu defnydd o blastig.
Un o'r trigolion lleol, Anthony Slaughter - sy'n rhan o'r mudiad Gwyrddio Penarth Greening (GPG) - ddechreuodd yr ymgyrch y llynedd ar ôl cyfarfod cyhoeddus a ddenodd llawer o ddiddordeb.
Creodd Mr Slaughter gynllun pum pwynt ynghyd â busnesau a sefydliadau'r dref, gan gynnwys:
Ysgogi cynllun addysg SAS o ysgolion di-blastig;
Annog ymrwymiad y cyngor lleol;
Gweithio gyda busnesau lleol, sefydliadau a grwpiau cymunedol i ledaenu'r neges;
Lleihau faint o blastig tafladwy sydd yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Mr Slaughter: "Mae'r gefnogaeth o'r gymuned wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiant yr ymgyrch.
"Roedd hyn yn destun pryder i lawer yn barod, ac roedden nhw'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan gyda chamau ymarferol i ddatrys y broblem."
'Annog ailddefnyddio'
Nod cymunedau di-blastig SAS yw dileu'r defnydd o blastig untro mewn cymunedau ar draws y wlad.
Maen nhw'n gobeithio bydd y cynllun pum pwynt yn hybu'r neges ac yn ysbrydoli cymunedau eraill i ddechrau gweithio tuag at yr un nod.
Dywedodd Rachel Yates, swyddog prosiect cymunedau di-blastig SAS: "Mae'n grêt i weld y gwaith sydd wedi cael ei wneud ym Mhenarth i geisio lleihau plastig, codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ailddefnyddio.
"Mae gennym ni dros 400 o gymunedau ar draws Prydain nawr yn gweithio i leihau'r defnydd o blastig a'r effaith mae'n cael ar ein hamgylchedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018