Plastig yn 'un o broblemau mwyaf dynol-ryw heddiw'
- Cyhoeddwyd
Plastig ydy'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r ddynol-ryw, ar ôl cynhesu byd-eang, yn ôl y naturiaethwr a'r cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt Iolo Williams.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Manylu ar BBC Radio Cymru, mae'n siarad am y niwed difrifol y mae'n ei achosi i fywyd gwyllt.
Mae trefnydd grwpiau gwirfoddol sy'n casglu sbwriel ar draethau yn dweud bod y broblem yn dal i gynyddu, ac mae Mr Williams yn annog pobl i ddefnyddio llai o blastig.
Ond dywedodd gweinidog Llywodraeth Cymru ei bod yn falch o'i record ar yr amgylchedd, a bod cynlluniau pellach i amddiffyn yr amgylchedd ar y gweill.
'Torri 'nghalon'
Ar y rhaglen, dywedodd Mr Williams: "Dwi'n cofio hanes y crwban môr mwya' i gael ei weld yn unrhyw le yn y byd - crwban lledr-gefn, gafodd ei olchi i fyny ar draeth Harlech yn 1988.
"Roedd hwnna'n pwyso bron i dunnell. Roedd yr anifail yna dros ganrif oed.
"Pam ei fod o wedi marw? Achos ei fod o wedi tagu ar fagiau plastig."
Mae nifer o anifeilaid yn llyncu bagiau plastig am eu bod yn edrych yn debyg i slefrod môr yn y dŵr, ac mae'r canlyniadau'n drasig, meddai Mr Williams.
"Mae hynna yn rhywbeth sy'n digwydd yn gyson rwan.
"Mae'n torri 'nghalon i bob tro dwi'n gweld llun neu ffilm o hugan neu forlo neu ddolffin neu forfil sydd wedi cael ei dagu neu ei rwymo mewn plastic - i feddwl bod hynny'n digwydd filoedd o weithiau bob dydd ar draws y byd.
"Mae hynny'n cael effaith andwyol ofnadwy, ac ar ôl cynhesu byd-eang, fyswn i'n dweud mai plastig ydi problem fwya' dynol-ryw erbyn heddiw."
Mae amcangyfrif bod 10m tunnell o blastig yn cyrraedd y moroedd bob blwyddyn, ac mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod hynny'n argyfwng i ecosystemau'r môr.
Ar y tir y mae llawer ohono'n cael ei ollwng, cyn i ran fawr ohono gael ei olchi i'r môr drwy afonydd, ffosydd a systemau carffosiaeth.
Unwaith y mae yno, dydy o ddim yn pydru, ond yn torri'n ddarnau mân.
Wrth iddo fynd i mewn i'r gadwyn fwyd - mae'n cael ei fwyta gan greaduriaid mân y môr, sydd yn eu tro yn cael eu bwyta gan bysgod. Mae 'na rybuddion ei fod yn mynd i mewn i'n cyrff ninnau, os ydym ni'n bwyta'r pysgod.
Fel rhan o'i waith hefo Cadw Cymru'n Daclus, mae Lee Oliver yn trefnu grwpiau gwirfoddol i fynd allan i gasglu sbwriel.
Dywedodd bod brwdfrydedd ac awydd i helpu wrth i fwy o bobl ddod yn ymwybodol o'r broblem.
Ond mae'ry broblem yn dal i gynyddu, a mwy o sbwriel i'w weld ar y traethau bob blwyddyn, meddai.
'Falch o record Cymru'
Defnyddio llai o blastig ac ailgylchu mwy ydy un o'r atebion. Ond mae arbenigwyr hefyd yn dweud bod angen i lywodraethau weithredu.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn wrth Manylu bod Llywodraeth Cymru yn falch o'i record ar yr amgylchedd - hi oedd y gyntaf o lywodraethau'r DU i gyflwyno treth ar fagiau plastig - a bod ganddi fesurau pellach i'w warchod.
Mae'r rheiny'n cynnwys gosod targedau ailgylchu, gyda'r nod o wneud Cymru yn wlad ddi-wastraff.
Mae gan awdurdodau lleol eu cynlluniau eu hunain i geisio lleihau gwastraff plastig.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi ymrwymo i sicrhau statws 'Dim Plastig' ar gyfer y sir, drwy geisio lleihau'r defnydd o blastig sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith yn ei holl safleoedd ac ysgolion.
A Chyngor Conwy fydd y cyntaf yng Nghymru i gasglu biniau'n fisol er mwyn arbed arian a gwneud i bobl ailgylchu mwy, er bod rhai yn gwrthwynebu'r cynllun yn chwyrn.
Angen gweithredu
Gydag arbengiwyr yn rhybuddio bod angen i'r rhan fwyaf ohonom ddefnyddio llawer llai o blastig i atal mwy o ddifrod i'r moroedd gan y domen sbwriel dan y tonnau, mae Mr Williams yn galw ar y llywodraeth i weithredu ar frys.
"Mae pawb yn gallu gweld bod plastig yn broblem a bod 'na ormod ohono," meddai.
"Mae rhywun yn mynd i siop i brynu nwyddau heddiw, tatws, moron, beth bynnag, maen nhw mewn plastig, bob un tro. Does dim rhaid iddi fod fel yna.
"A mae'n rhaid i'r llywodraeth arwain - Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain ac Ewrop, mae'n rhaid iddyn nhw. Dy'n nhw ddim yn gwneud digon, dy'n nhw ddim yn gwneud hanner digon.
"Ma' rhaid i ni eu cael nhw i wneud rhywbeth a gwneud rhywbeth heddiw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018