Dadorchuddio cadair a choron yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
caerdydd a'r froFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Cafodd dwy o wobrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bae Caerdydd 2019 eu dadorchuddio nos Fercher.

Y saer Iolo Puw sydd wedi creu cadair eleni o goeden derwen sy'n hanu o dir Gwersyll yr Urdd Glan-llyn.

Mae'r gadair wedi ei noddi eleni gan Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.

Dyma ail gadair yr Urdd Mr Puw, gan iddo gydweithio gyda'r diweddar John Pugh o Bennal ar gadair Eisteddfod yr Urdd Meirionydd 2014.

Mae Iolo Puw yn saer brwd sydd wedi creu nifer o gadeiriau ar gyfer eisteddfodau lleol ac eisteddfodau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Esboniodd bod "dyluniad y gadair yn dibynnu ar y goeden, yn amlach na pheidio.

"Cadair drom, gre sy'n creu siâp syml ond gosgeiddig yw'r gadair dderw eleni.

"Mae lliw cynnes y derw yn gwrthgyferbynnu'n hyfryd gyda phatrwm llinell a siapiau du a gwyn y brethyn.

"Dwi'n falch iawn ohoni ac mae'n fraint gallu ei throsglwyddo i Eisteddfod yr Urdd ar gyfer un o brif gystadlaethau'r Eisteddfod yn 2019," meddai.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy ochr i'r goron yn dilyn yr un patrwm ac mae'r cyfan wedi ei orffen mewn satin

Iolo Edger, gemydd o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi creu'r goron arian eleni, gyda hithau'n cael ei noddi gan Gaenor Mai Jones o Bontypridd, er cof am ei rhieni.

Cafodd ei ysbrydoli gan stori rhieni Gaenor, pan fu'r ddau gyfarfod tra'n gweithio i'r Urdd yn Aberystwyth yn y 50au.

Dywedodd y crefftwr Iolo Edger bod stori rhieni Gaenor wedi gwneud iddo feddwl "am Gymru, ein diwylliant a'n hiaith".

"A meddyliais am greu coron oedd yn cyfleu'r undod yna, undod trwy'r iaith Gymraeg a dathliad rhieni Gaenor yn cyfarfod fel pobl ifanc a chyfuno hynny gyda dathliad ieuenctid yr Urdd."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 o Fai a 1 Mehefin 2019.

Dydd Iau 30 Mai bydd Seremoni'r Cadeirio yn cael ei chynnal ar lwyfan Theatr Donald Gordon, a Seremoni'r Coroni ar ddydd Gwener 31 Mai.