Brains i daflu 36,000 peint o gwrw achos blas 'sawrus'

  • Cyhoeddwyd
Brains canol dreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brains yn y broses o symud o'r safle yng nghanol Caerdydd

Bydd 36,000 peint o gwrw Brains yn cael eu taflu gan y cwmni oherwydd problem gyda'i flas.

Cwrw Brains Bitter gafodd ei fragu ar safle'r cwmni yng nghanol dinas Caerdydd sydd wedi ei effeithio.

Dywedodd rhai tafarndai wrth BBC Cymru bod problemau gyda'r cwrw wrth ei weini, a bod rhai cwsmeriaid wedi cwyno am flas "sawrus".

Mae llefarydd ar ran y cwmni yn dweud y bydd y cwrw sydd wedi ei effeithio'n cael ei alw yn ôl.

'Problem blas'

Mae Brains yn y broses o symud gwaith cynhyrchu o'r hen bencadlys yn y ddinas i safle newydd "Dragon Brewery" yn Nhremorfa.

Y gred yw bod y cwrw sydd wedi ei effeithio'n un o'r rhai olaf i gael ei fragu ar yr hen safle.

Dywedodd y cwmni bod "problem blas" wedi ei ddarganfod gyda chwrw o'r safle a bod yr holl gasgenni wedi eu galw 'nôl.

Ychwanegodd llefarydd bod cwrw o'r safle newydd wedi ei yrru allan yn ei le.

Pan fydd y safle newydd yn gwbl weithredol, dywedodd y cwmni y byddai'n gallu bragu 20 miliwn peint o gwrw y flwyddyn yno.

Mae Brains wedi bod yn bragu cwrw yng Nghaerdydd ers 1882.