Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2022 ym Maldwyn

  • Cyhoeddwyd
MachynllethFfynhonnell y llun, Matt Cardy
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Urdd bod "trafodaethau yn parhau er mwyn lleoli'r Maes ym Machynlleth"

Mae'r Urdd wedi cadarnhau mai ym Maldwyn fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn 2022.

Bwriad y mudiad ydy lleoli'r Maes yn nhref Machynlleth, ar y tir sy'n ymestyn o'r Ganolfan Hamdden a'r Plas, draw hyd at Barc Menter TreOwain.

Does dim cadarnhad eto mai yno fydd y Maes.

Dyma fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988.

Daw'r cyhoeddiad wedi cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Glantwymyn nos Fercher.

Dywedodd yr Urdd bod disgwyl i'r Eisteddfod ddod â £6m i'r economi leol a thua 90,000 o ymwelwyr i'r Maes rhwng 30 Mai-4 Mehefin 2022.

Fe dderbyniodd cais yr Urdd i gynnal yr Eisteddfod ym Maldwyn "[g]efnogaeth unfrydol", meddai'r mudiad.

'Mae'n fraint i Bowys'

Dywedodd Morys Gruffydd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd: "Bydd 2022 yn flwyddyn fawr i'r Urdd wrth i'r mudiad ddathlu canrif ers ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922 ac mae'n wych medru cadarnhau y bydd Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn honno yn dychwelyd i Faldwyn am y tro cyntaf ers 34 o flynyddoedd.

"Hoffwn ddiolch yn fawr i Gyngor Sir Powys, y Pwyllgor Rhanbarth a'r trigolion lleol am eu cefnogaeth barod i wahodd yr ŵyl i Faldwyn ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi yn y blynyddoedd nesaf."

Ychwanegodd Myfanwy Alexander ar ran Cyngor Sir Powys bod croesawu'r Eisteddfod yn "fraint i Bowys"

"Mae hon yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac fel cyngor sir, rydym yn croesawu'r cyfle i'w dathlu efo mudiad sy'n bartner mor bwysig i ni yn ein hymdrechion i gryfhau'r iaith ym Mhowys."

Bydd cyfarfod i sefydlu'r Pwyllgorau Testun ar nos Iau, 19 Medi 2019 yn Ysgol Caereinion.

Mae'r Eisteddfod yn ymweld â Sir Ddinbych yn 2020, a Sir Gaerfyrddin yn 2021.