Cwmni Si-lwli yn wynebu mynd i'r wal ar ôl cael eu twyllo

  • Cyhoeddwyd
Awena a Baron Walkden yn 2017
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r gwmni Awena a Baron Walkden - sydd i'w gweld yma yn 2017 - dalu £18,000 ychwanegol i ffatri yn China er mwyn derbyn y teganau

Mae cwmni o Ynys Môn sy'n creu teganau Cymraeg i blant yn dweud eu bod yn wynebu mynd i'r wal ar ôl cael eu twyllo o £18,000.

Cafodd Si-lwli ei sefydlu gan Awena Walkden a'i gŵr ym Mhorthaethwy yn 2016, a nhw sydd wedi creu'r tegan cyntaf sy'n canu yn Gymraeg.

Dywedodd eu bod wedi colli £18,000 yn dilyn yr hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel "sgam soffistigedig".

Yn ôl Ms Walkden fe wnaeth hi ofyn i gwmni o China i greu teganau i Si-lwli, ond dim ond ar ôl iddi drosglwyddo'r arian ar-lein y gwnaeth hi sylweddoli ei bod wedi cael ei thwyllo.

Rhyng-gipio ebyst

Dywedodd Ms Walkdon bod rhywun wedi rhyng-gipio ebyst rhwng ei chwmni hi a ffatri yn China oedd yn cynhyrchu'r tegan Draigi.

"Roedd rhywun 'di hacio rhwydwaith y ffatri [sy'n cynhyrchu'r teganau yn China]," meddai Ms Walkden wrth raglen Taro'r Post.

"Mae'n ymddangos bod rhywun wedi bod yn edrych ar bob un ebost ac yn stopio ambell ebost ac yn newid ambell i wybodaeth o fewn yr ebost."

Dywedodd fod y ffatri wedi anfon ebost at Si-lwli gyda manylion banc er mwyn talu £18,000 am y teganau, ond fod y twyllwyr wedi newid y manylion yna.

Er i Ms Walkden sylweddoli fod y manylion yn wahanol i'r rhai a roddwyd er mwyn talu'r blaendal, fe gadarnhaodd y twyllwyr fod y manylion yn gywir ac fe gafodd y swm ei brosesu.

Ond doedd y ffatri heb dderbyn yr arian a bu'n rhaid i Ms Walkden dalu £18,000 yn ychwanegol er mwyn derbyn y teganau.

Disgrifiad o’r llun,

Si-lwli sy'n gyfrifol am Y Seren Swynol - y tegan cyntaf i ganu yn Gymraeg

"Does dim ffordd o gael y pres yn ôl - mae'n bechod ofnadwy," meddai Ms Walkden.

"[Mae'r cwmni] yn rhywbeth 'da ni'n 'neud tu allan i'r gwaith - rhywbeth 'da ni'n 'neud er mwyn yr iaith. Mae'n sefyllfa ddigalon.

"Mae'r effaith personol yn rhywbeth allwch chi ddim ei fesur. Dwi 'di dysgu gwers ddrud a chaled ofnadwy.

"Mae wedi ein gadael ni mewn sefyllfa fregus ofnadwy."

'Digalon i Gymru'

Dywedodd bod yr heddlu wedi dweud nad ydyn nhw'n gallu gwneud unrhyw beth am fod y twyll wedi digwydd y tu allan i Ewrop.

Mae hi wedi trafod gyda'r Ombwdsmon Ariannol hefyd, ddywedodd nad oedd modd iddo ei helpu.

"Mae'n ddigalon i Gymru hefyd achos ni ydy'r unig rai sy'n g'neud teganau sy'n canu'n Gymraeg," meddai Ms Walkden

"Mae'r dechnoleg yn gymhleth, mae'r broses yn gymhleth - mae jest yn 'neud i chi feddwl ydy o werth o pan 'da ni'n bersonol wedi colli pres rŵan."