Dynes wedi rhoi £40,000 i dwyllwr 'blacmel emosiynol'
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi dod i'r amlwg bod dynes, a oedd yn credu bod ei mam yn cael ei thwyllo ar-lein, wedi rhoi £40,000 i'r twyllwr wedi iddi gael ei denu gan ei lais a'i straeon ffug.
Mae'r ddynes o dde ddwyrain Cymru yn wynebu dyledion anferth ar ôl cael ei dal mewn 'twyll rhamant'.
Dywed plismyn bod twyll o'r fath wedi cynyddu o bron i draean y llynedd.
Mae'r ddynes wedi rhannu ei stori â rhaglen X-Ray BBC Cymru gan ddweud ei bod wedi cael ei "blacmelio'n emosiynol" gan ddyn yr oedd hi'n wreiddiol yn amheus ohono.
Straeon i 'doddi fy nghalon'
Dywedodd: "Roeddwn yn amheus iawn o'r dyn yr oedd mam wedi dechrau perthynas ar-lein gydag e - yn enwedig wedi iddo ddweud fod rhywun wedi dwyn arian oddi arno ar Y Traeth Ifori."
Ond yna newidiodd ei meddwl wedi iddi siarad â'r dyn - oedd yn galw ei hun yn Jean Marc.
"Roedd ei lais yn hyfryd ac fe wnaeth ei straeon doddi fy nghalon," meddai.
"Fe anfonodd lun i fi mewn gwely ysbyty ac fe anfonais arian ato - 'nes i ddim dweud wrth mam. Fe wnes i e am fy mod eisiau iddi hi fod yn hapus."
Anfonodd €800 ato i ddechrau (oddeutu £712) ac yna 21 taliad arall - cyfanswm o £40,000 nes iddi sylweddoli ei bod wedi cael ei thwyllo.
Mae'r ddynes, sy'n fam i un, bellach yn wynebu dyledion mawr ac yn gwerthu gemwaith ei mam i dalu dyledion.
Blacmel emosiynol
"Y peth anoddaf oedd dweud wrth y gŵr," medd y ddynes.
"Doedd e ddim yn gallu edrych arnai pan ddywedais wrtho a ni allai gredu fy mod wedi bod mor wirion.
"Rwy'n teimlo fy mod wedi cael fy mlacmelion'n emosiynol ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn meddwl ddwywaith cyn credu twyllwyr."
Wedi ymchwiliad gan yr heddlu daeth i'r amlwg bod Jean Marc yn dwyllwr a'i fod yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyson i dwyllo pobl ymhellach.
Yn 2018 cafodd yr heddlu wybod am 4,555 achos o 'dwyll rhamant' - ac roedd cyfanswm y colledion a gafodd pobl 27% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
Y gred yw bod nifer y dioddefwyr yn uwch gan bod rhai yn cadw'r twyll yn gyfrinachol.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn y math yma o dwyll.
Cyngor ar-lein
Mae 'twyllwyr rhamant' yn edrych ar fanylion pobl ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn casglu gwybodaeth er mwyn cael yr afael drechaf ar ddioddefwyr;
Gall plismyn ymchwilio a chefnogi ac weithiau cael yr arian yn ôl;
Mae'n hawdd i dwyllwyr ddefnyddio cyfeiriadau e-byst a rhifau ffôn ffug;
Peidiwch ag anfon arian ar-lein i berson nad ydych wedi ei gyfarfod;
Meddyliwch ddwywaith cyn rhannu manylion personol - manylion y gall y twyllwr wneud defnydd ohono.
Mae X-Ray i'w weld nos Lun am 19:30 ar BBC 1 neu ar BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017