Bywyd claf 'mewn perygl' oherwydd diffyg bagiau maeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n methu treulio bwyd wedi dweud bod ei fywyd fod mewn perygl oherwydd problemau gyda'r bagiau maeth mae'n eu defnyddio.
Ers yn saith oed, mae Keith Millen, 48, yn ddibynnol ar fagiau sy'n cynnwys hylif llawn maeth sy'n cael ei chwistrellu i'r gwaed - TPN.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wedi disgrifio'r mater fel argyfwng gwladol.
Mae TPN yn cael ei wneud gan gwmni Calea, ond fe wnaeth y corff sy'n gyfrifol am ddiogelwch meddygol (MHRA) ganfod halogiad bacteriol yn yr ardal gynhyrchu ym mis Mehefin.
Er na chafodd bagiau eu canfod gyda'r bacteria, dywedodd MHRA bod risg i gleifion yn bosib.
Dywedodd MHRA fod hyn wedi arwain at ostyngiad yn y broses gynhyrchu ac oedi i gleifion oedd yn disgwyl y cynnyrch.
'Fe wna'i farw'
"Am 10 diwrnod doedd gen i ddim byd ond bagiau litr o ddŵr halen," meddai Mr Millen.
"Doedd 'na ddim byd, dim eglurhad.
"Rydych chi'n ddibynnol ar y bagiau yma - os nad ydyn nhw'n dod i mewn, yna mae'n ysbyty, a dyna ni.
"Mae'n frawychus - fe wna'i farw, rwy'n gwybod ei fod yn swnio'n ddramatig ond maen nhw'n chwarae o gwmpas 'da rhywbeth dwi ei angen i oroesi."
Fe ymddiheurodd llefarydd ar ran Calea i gleifion oedd wedi cael eu heffeithio, gan ddweud eu bod yn gobeithio dychwelyd i lefelau arferol o ddarparu "cyn gynted â phosib yn y cyfnod heriol yma".
Dywed Llywodraeth Cymru fod Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cymryd cyfrifoldeb o ddosbarthu TPN i gleifion yng Nghymru ar ran yr holl fyrddau iechyd.
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn cydweithio â'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr i "ddatrys y sefyllfa cyn gynted â phosib".