Hufenfa De Arfon yn creu 11 o swyddi wedi llwyddiant

  • Cyhoeddwyd
Hufenfa De ArfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni yn cyflogi dros 130 o bobl ar eu safle yn Chwilog

Mae cwmni cydweithredol ffermio llaeth hynaf Cymru yn bwriadu creu 11 o swyddi newydd ar ôl dathlu ei gwerthiant uchaf erioed.

Fe welodd Hufenfa De Arfon, sy'n fwyaf adnabyddus am ei chawsiau a'i fenyn o dan yr enw Dragon, gynnydd 17% yn ei gwerthiant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm i £2.2m.

Yn ôl y cwmni mae cyfanswm y gwerthiant sy'n cael ei gynhyrchu yn y ffatri yn Chwilog ger Pwllheli wedi cynyddu rhyw 60% yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn 2016 fe gyhoeddodd y cwmni fuddsoddiad o £12m er mwyn ehangu ei gyfleusterau cynhyrchu a phecynnu.

'Gwerth i'r llaeth'

Mae'r llaethdy'n cynhyrchu 14,000 tunnell o gaws y flwyddyn, gan ddefnyddio llaeth Cymreig gan 130 o aelodau sy'n ffermio ar hyd y gogledd a'r canolbarth.

"Ein prif ddyletswydd ni ydy casglu eu llaeth nhw, ei brosesu, a rhoi cymaint o werth â phosib i'r llaeth," meddai rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Alan Wyn Jones.

"Da ni 'di prosesu 130 miliwn litr o laeth yma yn y 12 mis diwethaf, a beth sy'n bwysig i ni ydy ein bod hi'n ychwanegu gwerth i'r llaeth yma."

Ymhlith rhai o'r datblygiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae cytundeb i gyflenwi cyfres o gawsiau newydd i gwmni Tesco, yn ogystal â chydweithrediadau â thri busnes arall o Gymru - Halen Môn, Penderyn a Llechi Llechwedd.

Ffynhonnell y llun, Hufenfa De Arfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hufenfa De Arfon yn fwyaf adnabyddus am ei chawsiau a'i fenyn o dan yr enw Dragon

Mae'r llwyddiant diweddar wedi arwain y cwmni i greu 11 o swyddi newydd.

"'Da ni'n cyflogi ychydig dros 130 o swyddi llawn amser, a bydd hynny'n codi o ryw 11 swydd arall dros y misoedd nesaf," meddai Mr Jones.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd modd i ni barhau i dyfu. Mae'r mwyafrif o'r gweithlu yma'n byw o fewn 20 milltir o'r hufenfa, felly mae'n gwmni pwysig iawn yma."