Brexit: Cwmni o Ddyffryn Aeron yn ystyried symud dramor

  • Cyhoeddwyd
Diodydd proteinFfynhonnell y llun, Volac
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Volac yn gwneud diodydd protein maidd o gynnyrch llaeth

Bydd cwmni diodydd protein o Ddyffryn Aeron yn ystyried ei ddyfodol yng Nghymru petai Prydain yn gadael yr UE heb gytundeb a bod 40% o dollau yn cael eu codi ar allforion.

Mae cwmni Volac wedi bodoli ers 20 mlynedd ac mae un o'i brif safleoedd yn Felinfach ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.

Dywedodd un o brif swyddogion y cwmni ei fod yn "poeni'n ddirfawr" na all fod yn gystadleuol ar ôl gadael yr UE.

Ond mae perchennog fferm yn yr ardal yn dweud bod Brexit yn cynnig "cymaint o gyfleoedd â sy 'na o fygythiadau".

Allforio 60%

Cwmni teuluol yw Volac gyda phump safle yn y DU, a 100 o bobl yn gweithio yn Felinfach.

Mae'r cwmni yn cynhyrchu hanner y protein maidd sy'n cael ei wneud yn y DU ac yn allforio 60% o'r cynnyrch - 50% i'r Undeb Ewropeaidd.

Dywed Andy Richardson, un o brif swyddogion Volac, bod y cwmni wedi gwneud paratoadau trylwyr ar gyfer Brexit ond ei fod yn edrych ar bob dewis.

"Be' dwi'n poeni'n ddirfawr amdano yw bod mewn safle lle na allwn gystadlu a bydd busnesau yn symud i gynhyrchu dramor.

VolacFfynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o safleoedd cynhyrchu cwmni Volac yn Felinfach yng Ngheredigion

Mae Mr Richardson hefyd yn gadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru a dywed ei fod yn poeni'n benodol am fusnesau bach - nid oherwydd cynnydd yn y gwaith papur ond effaith y tollau.

Dywedodd: "Wrth siarad â llawer ohonyn nhw dy'n nhw ddim mor barod ag y gallent fod - y rheswm syml am hynny yw nad ydynt yn gwybod be' mae nhw'n baratoi amdano."

Ychwanegodd bod Volac wedi paratoi'n helaeth o ran rheoliadau a phacio.

Mike Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Smith yn credu y gallai mwy o gyfleoedd fod i gaws o'r DU

Mae Fferm Pelcome ger Camros ar gyrion Hwlffordd wedi bod yn nheulu Mike Smith ers i'w dad-cu ei phrynu ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Mae'r gyr presennol o 400 buwch yn ddisgynyddion i'r gwartheg a brynwyd yn niwedd y 1930au.

Mae Mr Smith yn gwerthu i First Milk ar gyfer gwneud caws, menter gydweithredol y ffermwyr lleol ac mae'r maidd yn cael ei werthu i gwmni Volac ar gyfer diodydd protein.

Dywedodd: "Mae 'na lot o sefyllfaoedd amrywiol allai ddigwydd ond rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn eu rheoli.

"Mae pawb yn cynhyrfu ond mae busnesau angen sicrwydd. Mae'n bwysig nawr dod â'r cyfan i fwcwl. I fi mae yna gymaint o gyfleoedd â sy 'na o fygythiadau."

Cyngor ar gael

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths a Mr Richardson wedi anfon llythyr ar y cyd yn annog busnesau bwyd a diod i gynllunio "ymhob ffordd" ar gyfer Brexit.

Gallai'r heriau a'r newidiadau ymwneud â mynediad i ddeunyddiau craidd, rheoleiddio, symud arian a pholisi tollau.

Maen nhw'n dweud bod cymorth ar gael ar wefannau Busnes Cymru, dolen allanol, Paratoi Cymru, dolen allanol a phrosiect Cywain, dolen allanol.

Mae'r diwydiant bwyd wedi tyfu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn cyflogi oddeutu 250,000 o bobl.

Dywedodd Ms Griffiths: "Mae'n bwysig nodi y bydd Brexit yn cael effaith ar y diwydiant boed ni'n aros yn yr UE neu beidio - a bydd nifer o faterion i ddelio â nhw."

Ychwanegodd Mr Richardson: "Dwin deall fod cynllunio ar gyfer Brexit yn anodd i nifer o fusnesau, yn enwedig busnesau bach - ond mae'n rhaid cynllunio neu fel arall bydd busnesau yn dioddef."

Syren Shellfish fisherman
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan gwmni Syren Shellfish rwydwaith o 50 o bysgotwyr yn ne a chanolbarth Cymru

Mae Nerys Edwards yn rhedeg Syren Shellfish - cwmni bwyd môr yn Sir Benfro.

Mae hi'n credu bod y cwmni mor barod â sy'n bosib ar gyfer Brexit.

Dywedodd: "Pan yn llwytho pysgod cregyn mae amser yn bwysig.

"Dwi wedi cyflogi aelod arall o staff i gynnwys y wybodaeth berthnasol - rhywbeth na allai i ei wneud pan dwi ar y cei yn y glaw yn graddio a llwytho'r pysgod.

"Dwi'n gwybod bod y gwaith paratoi ar gyfer Brexit yn mynd ag amser ond mae'n syndod sut mae'r pryder yn lleihau wedi i chi eistedd lawr a darllen popeth - chi'n gwybod wedyn eich bod wedi gwneud eich gorau i fod yn barod."

Dywed Llywodraeth y DU fod cefnogi a rhoi sicrwydd i fusnesau i fod yn barod ar gyfer Brexit ar 31 Hydref yn flaenoriaeth.

Dywedodd llefarydd: "Rydyn wedi rhoi £108m o gyllid i helpu busnesau i fod yn barod."