Dirwy i gwmni bwyd am ddefnyddio label anghywir

  • Cyhoeddwyd
The dipFfynhonnell y llun, Safonau Masnach Cyngor Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Zorba Delicacies wedi rhoi'r label anghywir ar y pot

Cafodd menyw oedd ag alergedd difrifol ymateb gwael i tzatziki ar ôl i gwmni bwyd rhoi'r label anghywir ar y pot.

Fe blediodd y cwmni - Zorba Delicacies - sy'n gweithredu o Flaenau Gwent yn euog i dri chyhuddiad ar ôl cael ei herlyn gan Safonau Masnach Caerffili.

Yn y llys dywedodd yr erlynwyr fod Hayley Lancaster wedi cael sioc anaffylactig ar ôl bwyta wy oedd yn un o'r cynhwysion yn y bwyd fis Chwefror diwethaf.

Dywedodd bargyfeithiwr yr erlyniad, Matthew Roberts, wrth y llys y gallai'r ymateb fod wedi bod yn angeuol oni bai fod gan Ms Lancaster declyn 'epipen' gyda hi.

Cafodd Cyngor Caerffili wybod am y digwyddiad, ac fe wnaethon nhw gynnal profion ar y pot a brynodd Ms Lancaster, ac un arall a brynwyd o'r un siop.

Mae'r cwmni wedi cael dirwy o £93,000.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hayley Lancaster sioc anaffylactig ar ôl bwyta'r tzatziki

Mae gan Zorba Delicacies safleoedd yn Nhredegar, Rasa a Glyn Ebwy ac yno maen nhw'n creu bwyd fel tzatziki a hummus.

Roedd yr achos yma yn ymwneud â'r cwmni yn gwerthu cynnyrch oedd ddim yn ddiogel - yn benodol pot o tzatziki oedd yn cynnwys protein wy pan na ddylai hwn wedi bod yn rhan o'r bwyd.

Cyhuddiad arall yn erbyn y cwmni oedd bod y bwyd wedi ei labeli fel un heb wy pan nad oedd hyn yn wir.

Cafodd y cwmni hefyd orchymyn i dalu ardreth o £120 a chostau'r erlyniad o tua £14,700.