Gwaharddiad dysgu i brifathrawes am greu lluniau anweddus

  • Cyhoeddwyd
Rhian DeSouzaFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu o hyd i'r lluniau anweddus, a oedd wedi eu dileu o ffôn Desouza, drwy ddefnyddio meddalwedd arbenigol

Mae prifathrawes ysgol gynradd Gymraeg oedd â lluniau anweddus o ferch ysgol ar ei ffôn wedi ei gwahardd rhag dysgu am fwy na thair blynedd.

Clywodd panel disgyblu Cyngor y Gweithlu Addysg fod Rhian DeSouza mewn "perthynas rywiol" gyda'r ferch 16 oed.

Roedd y ferch wedi anfon lluniau o natur bersonol at DeSouza ar y cyfryngau cymdeithasol.

Pan gafodd Rhian DeSouza ei hatal o'i gwaith yn Ysgol Gymraeg Gellionnen yng Nghlydach dywedodd yr ysgol nad oedd y cyhuddiadau yn "ymwneud â'r un disgybl na chyn-ddisgybl".

Fe wnaeth y ddau gyfarfod trwy ffrind a dechreuodd DeSouza helpu'r ferch gyda'i harholiadau.

'Cymesur ac addas'

Roedd DeSouza a'r ferch - unwaith iddi droi'n 16 oed - wedi dechrau perthynas rywiol, gydsyniol.

Ond fe wnaeth mam y ferch ddarganfod eu bod mewn perthynas ar ôl dod o hyd i negeseuon ffôn cyfrinachol a rhoi gwybod i'r heddlu.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg nawr wedi penderfynu na fydd DeSouza yn gallu gweithio fel athrawes am o leiaf tair blynedd a chwe mis.

Bydd hefyd yn rhaid iddi wneud cais eto i gofrestru fel athrawes.

Dywedodd Stephen Powell, cadeirydd y cyngor bod y gwaharddiad yn "gymesur ac yn addas".

Fe blediodd DeSouza yn euog yn 2018 yn Llys y Goron Abertawe i greu lluniau anweddus o'r ferch a chafodd orchymyn cymunedol o ddwy flynedd.