Ad-drefnu'r Urdd: Ystyried cysylltu â'r Comisiynydd Plant

  • Cyhoeddwyd
Arwydd swyddfa rhanbarth yr Urdd ym Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae trefn desg boeth dan ystyriaeth yn lle swyddfa benodol ym Môn, gyda swyddogion yn ymweld yn gyson

Mae rhai o aelodau Urdd Gobaith Cymru'n ystyried cysylltu gyda'r Comisiynydd Plant ynglŷn â'u pryderon am gynlluniau ailstrwythuro'r mudiad.

Mae'r aelodau ar Ynys Môn yn anhapus y gallai staff yr Urdd gael eu symud o'r ynys a'u canoli ym Mangor a gwersyll Glan Llyn.

Desg boeth - hotdesk - fyddai ar Ynys Môn, gyda swyddogion yn ymweld yn gyson.

Dywedodd yr Urdd na fyddai'n "addas" i wneud sylw tra bo proses ymgynghori'n mynd rhagddi a'u bod "yn parhau i fod mewn cysylltiad cyson gyda staff y Maes a'u cynrychiolwyr".

Llais y bobl ifanc

Mae'r cynigion yn cael eu gwneud mewn dogfen ymgynghori fewnol gan yr Urdd.

Ond mae aelodau Fforwm Ieuenctid Môn yn dweud nad ydy eu llais nhw wedi ei glywed ar y mater, er eu bod wedi gofyn am gyfarfod gyda'r penaethiaid.

Maen nhw'n ystyried mynd â'u pryderon at y Comisiynydd Plant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gwestiwn dros sicrhau llais i aelodau ifanc wrth ymgynghori ar ailstrwythuro, medd Glesni Rhys

"Mudiad ieuenctid ydy'r Urdd ac mae'n gwestiwn pam fod llais y bobl ifanc ddim yn cael ei glywed yn barod," meddai Glesni Rhys, cadeirydd Fforwm Ieuenctid Môn.

"Os fasa ni'n cysylltu efo'r Comisiynydd Plant mi fasa hi'n sicr yn cefnogi ni fel pobl ifanc, dwi'n teimlo, ac mi fasa hi'n helpu ni gael ein lleisiau drosodd.

"Dwi'n teimlo efo Bwrdd Syr IfanC, oedden ni mewn cyfarfod yn ddiweddar a doedd 'na ddim math o ymgynghori ar hyn yn y cyfarfod."

Adolygiad

Y llynedd, cafodd adolygiad o waith adran Y Maes ei gynnal gan gwmni annibynnol Sian Eirian Cyf.

Yn dilyn hynny, aeth yr Urdd ati i wneud argymhellion ar strwythur staffio newydd.

Wythnos yn ôl daeth i'r amlwg bod undebau UCAC ac Unsain yn feirniadol o ddogfen ymgynghori'r Urdd, gan honni bod y mudiad "heb ystyried iechyd a lles" staff wrth ymgynghori.

Roedd gwirfoddolwyr yn Sir Benfro hefyd â phryderon tebyg i'r rhai ar Ynys Môn ynglŷn â cholli swyddogion lleol.

Ar y pryd, dywedodd Urdd Gobaith Cymru eu bod nhw wedi ymgynghori gyda rhanddeiliaid "yn cynnwys staff a gwirfoddolwyr".

Ymhlith y rhesymau dros newid strwythur staffio'r adran Maes, mae:

  • "Cysoni" yr hyn sy'n cael ei gynnig ar draws yr holl ranbarthau;

  • Cynyddu'r aelodaeth;

  • Gweithredu'n "fwy strategol" mewn ardaloedd difreintiedig;

  • Creu strwythur ariannol "cadarn a chynaliadwy".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Derek Evans wedi ysgrifennu at benaethiaid yr Urdd gan fynegi pryderon

Mae Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Môn, Derek Evans yn un arall sy'n poeni am yr argymhellion ac wedi ysgrifennu at benaethiaid yr Urdd gyda'i bryderon.

"Mae grym y mudiad yma yn nwylo gwirfoddolwyr sy'n rhoi cannoedd o oriau bob wythnos," meddai.

"Dwi wedi cael sgwrs ffôn efo'r prif weithredwr a dwi wedi cael addewid y bydd y prif weithredwr yn gwrando ar rai o'n pryderon ni a dwi wedi cael addewid falle y bydd 'na addasu elfen ar y cynllun fel mae'n sefyll."

Ymestyn cyfnod ymgynghori

Mewn datganiad dywedodd Urdd Gobaith Cymru: "Rydym wedi ymestyn ein cyfnod o ymgynghori i staff a rhanddeiliaid.

"Proses fewnol yw hon ac nid yw'n addas felly i'r Urdd wneud unrhyw sylw pellach nes bo'r broses wedi ei chwblhau.

"Mae'r Urdd yn parhau i fod mewn cysylltiad cyson gyda staff y Maes a'u cynrychiolwyr."

Mae BBC Cymru yn deall bod y cyfnod ymgynghori i staff wedi cael ei ymestyn tan 20 Mawrth.