Cyngor Ceredigion i barhau i werthu cyn-gartref nyrsio

  • Cyhoeddwyd
BodlondebFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cartref Bodlondeb wedi bod yn gwneud colled o oddeutu £400,000 y flwyddyn i'r cyngor cyn iddo gau

Mae Cyngor Ceredigion wedi penderfynu parhau gyda'r broses o geisio gwerthu cyn-gartref nyrsio am dri mis arall, i'w ddatblygu ar gyfer cartrefi cymunedol.

Fe gaeodd drysau cartref nyrsio Bodlondeb ym Mhenparcau am y tro olaf yn Ionawr 2018 ac roedd ar werth am £395,000.

Cafwyd hyn i brynwr ond wedi blwyddyn nid oedd modd parhau gyda'r gwerthiant.

Ddydd Mawrth cafodd penderfyniad ei gymeradwyo i ddileu awgrym cynharach gan gabinet y cyngor i roi blaenoriaeth i brynwyr fyddai'n gallu darparu gofal i'r henoed, gofal preswyl ar gyfer pobl a dementia neu gartref preswyl i bobl oedd angen tai cymdeithasol.

Penderfynodd y cyngor y byddai swyddogion yn cysylltu gyda landlordiaid cofrestredig cymdeithasol er mwyn ceisio gwerthu'r eiddo o fewn tri mis.

Os na fydd modd gwneud hyn o fewn y cyfnod yma, yna fe fydd y safle yn cael ei werthu ar y farchnad agored ac fe fydd unrhyw elw'n cael ei glustnodi ar gyfer ei fuddsoddi yng nghartrefi gofal preswyl y cyngor.

Datblygu'r safle

Roedd nifer o gynghorwyr lleol wedi dadlau nad oedden nhw wedi cael y manylion llawn am y cynllun, ac nad oedd digon o ystyriaeth i'r posibilrwydd o gael prynwr gyda diddordeb mewn datblygu'r safle ar gyfer cartref gofal i henoed â phroblemau iechyd meddwl.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones wrth y cabinet fod sawl aelod lleol wedi mynychu cyfarfod cyhoeddus nos Lun a bod y mater nawr "yn un cymhleth iawn" gyda nifer o straeon yn cael eu rhannu.

Gofynnodd y Cynghorydd Lloyd Edwards os oedd tri mis yn ddigon o amser i ddod o hyd i landlord cymdeithasol, gan ddweud ei fod yn credu bod y broses wedi ei chwblhau'n barod.

Clywodd y cyfarfod na fyddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn darparu gwlâu 'EMI' - i'r henoed sy'n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl ac yn fregus.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod y sefyllfa bresennol " yn siom fawr i mi achos pan wnaethon ni'r penderfyniad gwreiddiol fy ngobaith oedd y byddem yn dod o hyd i gwmni i afael yn yr awenau a buddsoddi yn y galw am gartref nyrsio".

"Nid yw'n gyfreithiol bosib i lywodraeth leol i redeg cartref nyrsio, gallwn redeg cartrefi gofal ond nid cartrefi nyrsio a beth sydd wir ei angen yma yw'r elfen nyrsio," meddai.