Bygythiad i swyddi wrth i fragdy Brains werthu 40 tafarn
- Cyhoeddwyd
Mae Brains wedi dweud y bydd swyddi'n debygol o gael eu colli wrth iddyn nhw werthu 40 o dafarndai yn sgil "cyfnod economaidd ansicr".
Dydy hi ddim yn glir eto faint o swyddi sydd yn y fantol, ond dywedodd y cwmni bragu o Gaerdydd eu bod wedi rhoi gwybod i'r tafarndai rheiny sydd dan fygythiad.
Dywedodd Brains fod angen i'r cwmni "amddiffyn ei hun at y dyfodol" yn sgil Brexit a chynnydd i'r isafswm cyflog.
"Yn anffodus bydd angen llai o bobl arnom ni i ddarparu gwasanaeth yn ein tafarndai unwaith y bydd y gwerthiannau wedi'u cwblhau," meddai'r cwmni mewn datganiad.
Dywedodd Brains, sydd yn rhedeg dros 200 o dafarndai ar draws y wlad, eu bod yn bwriadu gwerthu'r tafarndai hynny oedd "ddim yn greiddiol i'n busnes".
Ychwanegodd y cwmni eu bod wedi rhoi gwybod i staff y byddan nhw'n "rheoli'r broses anodd yma gyda pharch a gofal", ond mai'r bwriad oedd gallu tyfu eu helw "yn sylweddol".