Sut mae plastig wedi cyrraedd llynnoedd yr Wyddfa?
- Cyhoeddwyd
Rydyn ni'n clywed llawer am blastig yn cael ei olchi ar ein traethau ond mae gwaith ymchwil wedi darganfod bod darnau bach iawn o blastig wedi ei ddarganfod yn llynnoedd yr Wyddfa, 2,000 troedfedd uwch lefel y môr.
Ond sut mae wedi cyrraedd yno?
Esboniodd Dr Paula Roberts o Adran Rheoli'r Amgylchedd, Prifysgol Bangor ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru, fod y term meicroblastig yn amrywio o ronynnau mor fach fel y gallwn eu hanadlu hyd at ddarnau 5mm ar draws, y gallwn eu gweld.
"Mae mor fychan, mae'r gwynt yn ei bigo i fyny, mae o'n chwipio ar draws ac wedyn pan mae'n bwrw - ac mae yn bwrw yn Eryri - mae'n cael ei olchi allan o'r cwmwl, fel mae lot o elfennau llwch ac yn y blaen.
"Dwi ddim yn siŵr os oes neb yn medru dweud yn hollol bendant mai dyna sut mae'n symud yna ond 'dan ni yn ymwybodol o'r ffaith fod llwch yn cael ei bigo i fyny gan y gwynt ac yn symud ar lefel byd-eang ar draws y blaned a pan mae'n bwrw, bod y glaw wedyn yn ei olchi allan o'r cymylau.
"Rydyn ni i gyd wedi gweld ein ceir yn goch yn y bore efo tywod o'r Sahara... mae'r un peth yn gweithio ar lefel byd-eang."
Enghraifft arall yw pan mae llosgfynydd yn ffrwydro, mae'r llwch yn mynd rownd y blaned, meddai Paula, ac mae'r mân blastig yn ein hamgylchedd yn bihafio yn yr un ffordd ac yn cael ei olchi o'r cymylau mewn glaw.
"Mae'n cyrraedd ein llefydd mwyaf gwyllt ni... mae pobl wedi ei fesur yn yr Arctig, yr Antarctig ... fedrwn ni ddim meddwl bod unlle yn hollol ddiblastig dwi ddim yn meddwl."
Newid agwedd
Ond ydy pobl yn cymryd hyn o ddifrif neu ydyn nhw wedi diflasu ac yn cwsg-gerdded drwy'r broblem? Mae Paula yn credu fod agweddau yn newid a bod y cyflwynydd David Attenborough wedi gwneud llawer i amlygu'r broblem.
"Ti'n mynd i bellafoedd y cefnforoedd a mae na blastig yna, mae na ardaloedd mawr o blastig mewn ardaloedd tirol ar draws y byd ac mae o wedi gwneud cryn dipyn i newid ein meddyliau ni am hynny neu i amlygu'r ffaith," meddai.
Hyd yn oed petai pawb yn stopio cynhyrchu plastig rŵan byddai'n dal yn broblem am ganrifoedd gan fod ôl troed plastig y rhan fwyaf ohonon ni fel unigolion yn debyg o fod tua 400-500 mlynedd yn ôl gwyddonwyr.
Ffyrdd eraill o becynnu bwyd
Ond dydi hi ddim yn rhy hwyr i newid meddai Paula.
"Ti'n gweld polisïau llywodraeth yn newid, er enghraifft i godi pres am fagiau plastig... mae na archfarchnad Cymreig yn ddiweddar sy'n symud i ffwrdd oddi wrth bacedu eu bwyd mewn plastig a defnyddio pethau fel cardbord a phapur ac yn y blaen.
"Mae 'na gonfensiynau, gwirfoddol ar hyn o bryd, lle mae cwmnïau sydd â diddordeb mewn gostwng gwastraff packaging yn ymrwymo i edrych am bethau eraill i becynnu eu bwyd.
"Rhaid i ni ddechrau meddwl be fedran ni ei wneud o rŵan ymlaen sy'n wahanol, sy'n mynd i leihau, efallai mewn 1,000 o flynyddoedd, faint o blastig sydd o gwmpas... fedrwn ni ddefnyddio rhywbeth arall i wneud yr un un job?"
Sbwriel hefyd yn ffactor?
Cafodd y samplau a gasglwyd rhwng Llyn Glaslyn ar yr Wyddfa lawr at y môr fis Ebrill 2019 gan yr amgylcheddwr Laura Anderson eu dadansoddi gan yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd y canlyniadau'n dangos tri darn o feicroblastig am bob litr o ddŵr y llyn, ac roedd hynny'n codi i wyth am bob litr ger yr aber ym Mhorthmadog.
Yn ôl Dr Christian Dunn o'r brifysgol mae'n debyg bod y meicroblastig (unrhyw beth sy'n llai na 5mm mewn maint) a nanoblastig (sydd ond i'w gweld o dan feicrosgôp) wedi dod am eu bod yn bresennol yn yr aer ac mewn glaw.
Ond gallai fod sbwriel yn cael ei chwalu hefyd yn ffactor, meddai.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod sbwriel - yn enwedig poteli a phacedi plastig - yn broblem fawr, a bod timau o wardeniaid gwirfoddol yn casglu bron 400 bag o sbwriel o'r mynydd bob blwyddyn.
Hefyd o ddiddordeb: