Bob Roberts, Llywydd Anrhydeddus Yr Urdd, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Bob Roberts, un o Lywyddion Anrhydeddus yr Urdd, wedi marw ddydd Mercher.
Mewn teyrnged, dywedodd y mudiad fod Mr Roberts a'i wraig Ann "wedi bod yn hynod weithgar a chefnogol i'r Urdd dros ddegawdau".
"Bu Bob yn Drysorydd am naw mlynedd ac yn Gadeirydd am chwech mlynedd, yn Ymddiriedolwr ac roedd yn parhau i fod yn Llywydd Anrhydeddus."
Yn wreiddiol o ardal Harlech a Phennal, bu Bob Roberts yn byw yn ardal Llandeilo ac yna'n Llanedi'n ddiweddarach.
Treuliodd ef a'i wraig flynyddoedd yng Nghaerdydd gan gynorthwyo gyda rhedeg canolfan yr Urdd ar Conway Road.
Sicrhau 'sylw cenedlaethol'
Dywedodd yr Urdd ei fod wedi sicrhau "sylw cenedlaethol i'r mudiad a oedd yn agos iawn at ei galon".
"Bu ef ac Ann yn ganolog ac yn hynod o lwyddiannus wrth drefnu gêm rygbi fawr i ddathlu 50 canfed penblwydd yr Urdd yn 1972. Gelwid hi yn Gêm y Jiwbilî, gyda dau gawr y byd rygbi yn arwain dau dîm - Barry John, yn ei gêm olaf, a Carwyn James - a dros 35,000 o gefnogwyr yn gwylio."
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Roedd Bob Roberts yn angerddol at yr Urdd a'r hyn yr oedd y mudiad yn ei gynrychioli.
"Roedd yn barod i drafod, siarad a dadlau gydag unrhyw un er budd yr Urdd.
"Bu'n hyrwyddo achos yr Urdd ar lefel wleidyddol yn y Swyddfa Gymreig, cyn dyddiau'r Cynulliad, gan ofalu bod Ysgrifennydd Gwladol ar ôl Ysgrifennydd Gwladol, yn cefnogi datblygiad y Mudiad. Mae ein diolch yn fawr iddo."
'Dawn i siarad yn blaen'
Dywedodd Cadeirydd yr Urdd, Dyfrig Davies: "Oni bai am waith caled, gwirfoddol Bob fe fyddai'r Urdd wedi gweld hi'n anodd iawn i barhau ar adegau - er enghraifft, adeg streic yr athrawon ac adeg Clwy Traed a'r Genau.
"Roedd Bob yn meddu ar ddawn i siarad yn blaen mewn pwyllgor ac i adael unrhyw anghydweld o fewn ffiniau pwyllgor. Roedd ei siort yn brin - a'i barodrwydd i weithio dros bob peth da a chyfiawn, yn anhygoel."
Ychwanegodd: "Mae'n rhyfedd i ni yn yr Urdd golli dau o'n Llywyddion Anrhydeddus mewn cyfnod mor fyr - Prys Edwards a Bob Roberts - dau a roddodd yn ddiflino i'r mudiad. Pan ddaw'r amser priodol, ein braint fydd coffau'r ddau gyda chydweithrediad eu teuluoedd yn y modd mwyaf addas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020