Carcharu adeiladwr am dwyllo cwsmeriaid 'bregus' ledled y de
- Cyhoeddwyd
Mae adeiladwr adawodd gartref teuluol mewn perygl o gwympo wedi cael ei ddedfrydu am dwyllo cwsmeriaid ledled de Cymru.
Ymchwiliodd BBC Cymru i Rob Hayel, 46 oed o Gaerdydd, ar ôl iddo adael cwsmeriaid ag adeiladau anniogel a gwaith ar ei hanner.
Dywedodd ymchwilwyr Cyngor Caerdydd fod Hayel yn un o'r troseddwyr gwaethaf iddyn nhw ei weld erioed.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod gan y cyn-filwr "ddiffyg dealltwriaeth o egwyddorion adeiladu sylfaenol" a bod cyfanswm y golled yn £100,000.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis yn y carchar ddydd Iau.
Ymchwiliad rhaglen X-Ray
Clywodd y llys fod yr erlyniad yn ymwneud ag wyth eiddo ar wahân.
Roedd Hayel wedi honni ar-lein bod ei waith "wedi'i gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb".
Yn 2016, fe wnaeth rhaglen X-Ray BBC Cymru ymchwilio iddo, a daeth i'r amlwg fod sawl teulu wedi dioddef oherwydd ei waith gwael.
Yn ystod y dedfrydu dywedodd yr erlynydd Carl Harrison fod "bregusrwydd" ei ddioddefwyr yn caniatáu iddo gael "mwy o arian".
Dywedodd Mr Harrison: "Mae'n haws i'r diffynnydd gael arian gan gwsmeriaid newydd, na'r rhai y mae eisoes yn eu methu."
PTSD
Clywodd y llys fod Hayel wedi rhoi rhestr faith o esgusodion i un cwpl o Gasnewydd ynglŷn â pham na allai weithio, gan gynnwys ei fod wedi bod yn yr ysbyty, bod ei ffôn wedi'i ddwyn, ei fod yn mynychu "argyfwng teuluol" a bod ei fam yn yr ysbyty.
Yna gofynnodd iddyn nhw roi benthyg arian iddo ar ôl honni bod gweithwyr wedi dwyn oddi arno, gan dawelu eu meddwl trwy ddweud: "Ni fyddaf byth yn eich twyllo."
Yn y pen draw, dywedodd wrth ei gwsmeriaid na fyddai'n dychwelyd i'r swydd oherwydd ei fod yn "feddyliol sâl".
Clywodd y llys fod Hayel wedi gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rhwng 1990-1999 ac yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
Clywodd y llys nad oes ganddo unrhyw asedau a dim arian, ac nad yw'n berchen ar ei gartref ei hun, ond mae wedi bod yn gweithio fel saer coed.