Cau canolfan Sky yng Nghaerdydd wedi achosion Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Sky Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ganolfan yn cael ei lanhau'n drylwyr dros y penwythnos

Mae gweithwyr canolfan alwadau cwmni Sky yng Nghaerdydd wedi cael eu hanfon adref ddydd Gwener wedi i dri aelod o staff yno gael profion positif am coronafeirws.

Dywed y cwmni mai "gwarchod ein pobl yw - a fydd wastad - ein prif flaenoriaeth", a dyna'r rheswm dros fod yn rhagofalus a chau'r ganolfan.

Mae'r tri aelod staff yn hunan-ynysu adref ar ôl cael y diagnosis, ac mae'r cwmni'n cysylltu ag unrhyw un a fu mewn cysylltiad â nhw.

"Mae gyda ni raglen olrhain cysylltiadau gadarn," meddai llefarydd. "Bydd unrhyw un rydym yn ei nodi yn cael cyngor i gael prawf ac i ynysu nes eu bod yn derbyn eu canlyniadau".

Ychwanegodd: "Mae'r ganolfan ei hun wedi cael ei lanhau'n drylwyr yn ddiweddar a bydd yn cael ei lanhau'n drylwyr eto dros y penwythnos.

Dyma'r ail dro ers dechrau'r pandemig i'r cwmni orfod cau'r adeilad, ar Stryd Tyndall yn ardal Tre-biwt y brifddinas, a danfon staff adref.

Fe ddigwyddodd hynny ym mis Mawrth hefyd oherwydd amheuaeth fod aelod staff â Covid-19, ond daeth i'r amlwg yn ddiweddarach nad dyna'r achos.

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener fod 14 o'r achosion diweddaraf o'r feirws yng Nghymru wedi'u cofnodi yng Nghaerdydd - y nifer uchaf o achosion newydd yn y ddinas ar unrhyw ddiwrnod unigol ers 3 Mehefin.

Cafodd 34 o achosion eu cofnodi ar draws Cymru yn y 24 awr hyd at ddydd Iau, sy'n dod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 17,673.

Ond chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi eto yn yr un cyfnod, sy'n golygu fod cyfanswm y marwolaethau'n dal yn 1,589.