Coronafeirws: Cau canolfan alwadau yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r ganolfan alwadau ar Stryd Tyndall yn ardal Tre-biwt y brifddinas
Cafodd gweithwyr mewn canolfan alwadau Sky yng Nghaerdydd eu hanfon adref ddydd Mawrth wedi i'r cwmni ddweud bod aelod o staff â coronafeirws.
Cafodd y swyddfa ar Stryd Tyndall ei chau am 14:30 brynhawn Mawrth er mwyn cael ei glanhau ac ni fydd yn ailagor nes dydd Iau.
Roedd yr aelod o staff wedi bod yn hunan ynysu am rai dyddiau cyn i Sky ddweud bod yr haint wedi'i gadarnhau.
Ond yn dilyn ymchwiliad ar y cyd â Iechyd Cyhoeddus Cymru dywedodd Sky ddydd Mercher nad oedd yr aelod o staff wedi cael yr haint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020