'Dim yswiriant' ar gael i fragdy ar ôl difrod llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog bragdy a gafodd ei ddifrodi'n ddifrifol gan lifogydd ym mis Chwefror yn dweud nad yw'n gallu cael yswiriant ar gyfer ei fusnes.
Achoswyd difrod gwerth degau o filoedd o bunnau i Fragdy Twt Lol ar Stad Ddiwydiannol Trefforest yn y storm ar 16 Chwefror.
Fe gafodd dros 10,000 o gartrefi a busnesau eraill ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf eu taro.
Dywedodd perchennog y bragdy, Phil Thomas, ei fod yn nerfus iawn penwythnos diwethaf pan welodd rybuddion am lifogydd eto.
Trwy lwc, ni chafodd ei uned ddifrod y tro hwn. Ond mae'n poeni y gallai llifogydd daro eto yn y dyfodol.
"Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel," meddai, "fe gawson ni'r llifogydd ym mis Chwefror ac wedyn mis ar ôl hynny daeth Covid."
Mae Phil wedi cysylltu â nifer o gwmnïau yswiriant a broceriaid, ond "'dyn nhw ddim hyd yn oed yn rhoi pris i ni," meddai.
Oherwydd natur y busnes mae ganddo offer trwm yn yr uned a dyw hi ddim yn bosib eu symud ar fyr rybudd.
Petai llifogydd eto mae'n poeni y gallai'r difrod fod yn sylweddol ac, unwaith eto, yn gostus.
Dywed ei fod wedi ystyried symud i leoliad arall ond fe fyddai hynny'n gostus.
Ar hyn o bryd mae'n ystyried cyflwyno mesurau ei hun i atal llifogydd o gwmpas ei uned.
Ond mae'n poeni fod y gost o wneud hynny'n mynd i fod yn ormod iddo fe a busnesau bach eraill.
Dywedodd hefyd bod "dim cefnogaeth i wneud hynny".
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cyllid wedi'i roi i awdurdodau lleol a pherchnogion busnesau gafodd eu heffeithio gan y llifogydd - gyda 467 o fusnesau yn derbyn grant o hyd at £2,500.
Mater i Lywodraeth San Steffan ydy gwasanaethau ariannol fel yswiriant - ac mae DEFRA wedi ymrwymo i weithio gydag yswirwyr i gadw golwg ar y farchnad.
Fe ddywedodd Aelod o'r Senedd dros Bontypridd, Mick Antoniw ei fod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru naill i gefnogi busnesau sydd wedi'u taro gan y llifogydd i symud i leoliad arall neu i ddatblygu cynllun i'w cefnogi.
"Mae nifer o fusnesau ar Stad Ddiwydiannol Trefforest sydd methu â chael yswiriant ar gyfer risg llifogydd, neu yswiriant fforddiadwy," meddai.
"Mae yna beryg y byddan nhw yn bwrw mlaen heb yswiriant ac os yw llifogydd yn eu taro eto, bydd hi ddim yn bosib iddyn nhw ddelio â chost hynny ac fe fyddan nhw'n cau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020