Achos Ynys-wen: Dyn gerbron Llys y Goron
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio merch 16 oed yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Chung Xu, 31, hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn 38 oed.
Bu farw Wenjing Lin wedi digwyddiad yn nhŷ bwyta Chineaidd ei theulu yn Ynys-wen ger Treorci ddydd Gwener diwethaf.
Fe ddilynodd Mr Xu y gwrandawiad llys gyda chymorth cyfieithydd.
Cafodd yr achos ei ohirio tan 26 Mawrth. Ni chafodd ple ei chyflwyno, a doedd dim cais am fechnïaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2021